Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Defosiwn Diolchgarwch Dyddiol Paul TrippSampl

Paul Tripp's Daily Thanksgiving Devotional

DYDD 6 O 12

Fe hoffwn i allu dweud fy mod wastad yn fodlon. Fe hoffwn i allu dweud dw i byth yn cwyno. Fe hoffwn i allu dweud dw i fyth angen beth sydd gan rywun arall. Fe hoffwn i allu dweud nad ydw i wedi bod yn eiddigeddus o fywyd rywun arall. Fe hoffwn i allu dweud nad ydyw i'n meddwl fod Duw wedi rhoi i rywun arall beth oedd e wedi'i olygu ei roi i mi. Fe hoffwn i allu dweud fy mod yn well am gyfrif fy mendithion na asesu beth sydd ddim gen i. Fe hoffwn i allu dweud nad ydy fy awch am bethau gymaint ag ydy e.. Fe hoffwn i petasai fy nghalon, o'r diwedd, wedi'i bodloni.

Mae rhain i gyd yn ddymuniadau oherwydd dŷn nhw ddim, i gyd, yn wir amdana i. Mae eiddigedd yn parhau i lechu'n fy nghalon. Mae e'n un o ganlyniadau tywyll pechod sy'n byw yna. Pam fod y Beibl yn condemnio eiddigedd gymaint? Dyma fe: pan mae eiddigedd yn rheoli dy galon, dydy cariad Duw ddim. Gad i ni feddwl am beth mae eiddigedd y nei wneud. Mae e'n tybio dy fod yn haeddu bendithion nad ydwyt ti mewn gwirionedd. Pan mae dy galon wedi'i reoli gan eiddigedd, mae'r agwedd o "Dw i wedi fy mendithio" yn cael ei gyfnewid am "Dw i'n haeddu." Mae eiddigedd yn hunanol hyd at ei graidd. Mae eiddigedd yn dy roi di yng nghanol y byd bob tro. Mae e'n gwneud popeth i fod amdanat ti. Mae e'n dy annog i edrych ar fywyd o bersbectif penodol dy anghenion a teimladau.

Mae hi'n drist dweud fod eiddigedd yn achosi ti i gwestiynu daioni, ffyddlondeb a doethineb Duw. Mae eiddigedd yn cyhuddo Duw o beidio gwybod beth mae e'n ei wneud ac o beidio bod yn ffyddlon i'r hyn addawodd e ei wneud. Pan wyt wedi dy argyhoeddi fod person arall wedi derbyn bendith y dylet ti fod wedi'i derbyn, mae dy broblem di, nid yn unig gyda'r person hwnnw, ond gyda Duw. Pan wyt tyn dechrau cwestiynu daioni Duw, rwyt yn stopio mynd ato i chwilio am help am dy fod yn ei amau.

Mae eiddigedd yn gwneud rywbeth arall sy'n gallu lladd yr ysbryd. Mae e'n honni fod ganddo ddealltwriaeth sydd ddim gan neb arall. Mae eiddigedd, nid yn unig yn credu dy fod yn gwybod mwy am fywyd y person arall, mae'n honni fod gen ti ddealltwriaeth gliriach o beth sydd orau na duw ei hun. Yn fwy na hynny, mae eiddigedd yn achosi i ti anghofio gras achubol anhygoel Duw, ac sy'n gallu trawsnewid ac awdurdodi. Rwyt wedi dy feddiannu gymaint wrth geisio cyfrif beth sydd ddim gennyt ti, fel dy fod yn methu adnabod a dathlu bendithion enfawr gras Duw - bendithion na allen ni fyth fod wedi'u hennill, na'u haeddu. A chan fod eiddigedd yn canolbwyntio fwy ar beth rwyt ti ei eisiau, yn hytrach na'r bywyd rwyt wedi dy alw iddo gan Dduw, mae yn dy gadw rhag talu sylw i orchmynion a rhybuddion Duw, gan felly dy adael mewn perygl moesol. Yr unig ateb i eiddigedd yw gras achubol Duw - gras sy'n troi pechaduriaid hunan-ganolog yn addolwyr llawen a bodlon o Dduw.

Ysgrythur

Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Paul Tripp's Daily Thanksgiving Devotional

Mae cyfnod y diolchgarwch yn gyfle i gpfio'r holl bethau da mae Duw wedi'u rhoi i ni, yn ei ras. Ond weithiau, mae prysurdeb y tymor yn ein cadw rhag cymryd amser i ddiolch i Dduw am ei holl roddion. Bydd y defosiynau llawn anogaeth yma gan Paul David Tripp yn cymryd ddim mwy na 5 munud i'w darllen, ond yn dy annog i fyfyrio ar drugaredd Duw ar hyd y diwrnod cyfan.

More

Hoffem ddiolch i Workmatters am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.crossway.org/books/new-morning-mercies-hcj/