Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Defosiwn Diolchgarwch Dyddiol Paul TrippSampl

Paul Tripp's Daily Thanksgiving Devotional

DYDD 5 O 12

Mae e'n eitem ar amlinellau diwinyddol bob un ohonom, ond dŷn ni ddim yn byw fel petai ni'n ei goelio. Dŷn ni i gyd yn dweud bod mwy i fywyd na'r hyn a welwn. Dŷn ni i gyd yn dweud ein bod yn coelio fod bywyd ar ôl marwolaeth. Mae ein diwinyddiaeth ffurfiol yn cynnwys y ffaith ein bod yn credu bod nefoedd a daear newydd i ddod. Ond, dŷn ni'n dueddol o fyw gyda'r pryder ac egni sy'n dod pan dŷn ni'n credu mai'r cwbl sydd gynnon ni yw'r funud hon.

Yn ei hanfod dyma'r sefyllfa: Os na wnei di ffocysu dy galon ar y paradwys sydd i ddod, byddi di'n ceisio troi'r byd syrthiedig a thrist hwn yn baradwys na all fyth ei fod. Yng nghalon pob un person byw mae yna hiraeth am baradwys. Mae dagrau plentyn sydd wedi syrthio, yn gri am baradwys. Dagrau plentyn sydd wedi'i wrthod ar y cae chwarae yw cri un am baradwys. Poen rhywun unig a heb deulu yw cri un sy'n hiraethu am baradwys. Poen y cwpwl a'u priodas wedi chwalu ye poen rhai sy'n crio allan am baradwys. Tristwch yr hen ddyn yw'r hyn mae e'n ei deimlo wrth i'w gorff wanychu yw'r gri am baradwys. Mae'r hiraeth hwn gan bob un ohonom, hyd yn oed pan nad ydyn ni'n ymwybodol ohono, oherwydd y Creawdwr roddodd e yna. "Mae hefyd wedi gwneud pobl yn ymwybodol o'r tragwyddol." (<Llyfr y Pregethwr, pennod 3, adnod 11). Mae ein cri yn fwy na chri o boen; mae e hefyd yn gri o hiraeth am gymaint mwy na fyddwn yn ei brofi'n y byd syrthiedig hwn.

Pan wyt yn anghofio hyn, rwyt yn gweithio'n galed i geisio troi'r funud hon yn baradwys na allai fyth ei fod. Fydd dy briodas di fyth yn baradwys. Fydd y job rwyt yn hiraethu amdani fyth yn baradwys. Ni fydd dy perthnasoedd yr hyn mae dy galon yn hiraethu amdano. Ni fydd y byd o'th gwmpas yn gweithredu fel paradwys. Ni fydd dy blant yn rhoi i ti baradwys. Ni fydd dy eglwys, ychwaith, yn cyrraedd safon paradwys. Falle bod plentyn Duw, paradwys, wedi'i addo i ti, ond nid ar y funud hon fyddi di'n ei gael e. Mae popeth sy'n dy siomi nawr, yma i'th atgoffa mai nid dyma'r cwbl sydd yna, ac i'th herio i hiraethu am y paradwys sydd i ddod. Mae'r breuddwydion sydd yn marw yn d'atgoffa nad paradwys yw hyn. Y blodau fydd yn gwywo i'th atgoffa nad hyn yw paradwys. Dylai'r pechod sy'n dy hudo dy atgoffa nad paradwys yw hyn. Mae'r afiechydon sy'n dy heintio'n dy atgoffa nad paradwys yw hyn. Dylet fyw mewn gobaith am fod paradwys ar ei ffordd, a stopia ofyn i'r byd syrthiedig hwn i fod y paradwys na all fyth fod.

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Paul Tripp's Daily Thanksgiving Devotional

Mae cyfnod y diolchgarwch yn gyfle i gpfio'r holl bethau da mae Duw wedi'u rhoi i ni, yn ei ras. Ond weithiau, mae prysurdeb y tymor yn ein cadw rhag cymryd amser i ddiolch i Dduw am ei holl roddion. Bydd y defosiynau llawn anogaeth yma gan Paul David Tripp yn cymryd ddim mwy na 5 munud i'w darllen, ond yn dy annog i fyfyrio ar drugaredd Duw ar hyd y diwrnod cyfan.

More

Hoffem ddiolch i Workmatters am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.crossway.org/books/new-morning-mercies-hcj/