Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Defosiwn Diolchgarwch Dyddiol Paul TrippSampl

Paul Tripp's Daily Thanksgiving Devotional

DYDD 10 O 12

Yn syml, does dim elli di wneud i ennill ffafr Duw. Rhaid i ti dderbyn hyn a'i gofio. Fyddi di fyth yn ddigon cyfiawn am ddigon o amser i fodloni gofynion sanctaidd duw. Fydd dy feddyliau fyth yn ddigon pur. Fydd dy ddymuniadau fyth yn ddigon sanctaidd. Fydd dy eiriau fyth yn ddigon glân. Fydd dy ddewisiadau, na'th weithredoedd, fyth yn ddigon da i anrhydeddu Duw. Mae safon Duw yn llawer iawn rhy uchel i ni ei gyrraedd fyth. Does yna ddim eithriadau. Dŷn ni oll yn byw dan bwysau;r un gyfraith a'r un anallu o bechod. Dŷn ni oll yn well am wrthryfela nac ufuddhau. Dŷn ni oll yn fwy balch na gostyngedig. Dŷn ni fwy parod i eilunaddoli nac addoli Duw. Dŷn ni'n well am fynd i ryfela yn erbyn ein cymdogion na'u caru. Dŷn ni oll yn ei chael hi' n haws i fod yn eiddigeddus na bod yn fodlon. Dŷn ni oll yn ladron mewn un ffordd neu'r llall. Dŷn ni oll yn chwennych beth sydd gan eraill. Dŷn ni wedi arfer mwy efo celwydd golau na'r gwirionedd. Dŷn ni'n condemnio gyda'n geiriau na bod yn rasol. Dŷn ni'n gadael tystiolaeth o'n hôl bob dydd na wnawn ni fyth gyrraedd safon Duw.

Dyma dy ddatganiad, "Mae hynny'n dweud y cyfan."Does neb byw yn gallu bod yn iawn gyda Duw drwy wneud beth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn." (Rhufeiniaid, pennod 3, adnod 20). A pham fod hyn yn iawn? Mae e'n wir oherwydd, "am fod pawb wedi pechu. Does neb wedi gallu cyrraedd safon berffaith Duw ar eu pennau'u hunain." (Rhufeiniaid pennod 3 adnod 23). Mae'r iaith yn hollgynhwysol. Does dim unrhyw le i eithriadau. Mae e'n newyddion cwbl ostyngedig fod rhaid i bawb dderbyn yn eu calonnau ac yn rhan o'u hunaniaeth. Ond, drws ydy'r newyddion anodd ei dderbyn hwn, nid i mewn i hunan-atgasedd dirdynnol ond i o baith a llawenydd tragwyddol. Dim ond pan byddi di'n derbyn pwy wyt ti a beth wyt ti'n fethu'i wneud y gwnei di ddechrau deall rheidrwydd rhodd Duw. Gad i ni roi'r newyddion da a drwg gyda'i gilydd, fel mae Paul yn ei wneud yn Rhufeiniaid, pennod 3. Mae e'n sgwennu, "am fod pawb wedi pechu. Does neb wedi gallu cyrraedd safon berffaith Duw ar eu pennau'u hunain. " ond niddyna yw diwedd y stori. Mae e'n mynd yn ei flaen i ddweud, "Duw sy'n gwneud y berthynas yn iawn. Dyma ydy rhodd Duw i ni am fod y Meseia Iesu wedi gwneud popeth oedd ei angen i'n gollwng ni'n rhydd. Drwy ei ffyddlondeb yn tywallt ei waed, rhoddodd Duw e'n aberth i gymryd y gosb am ein pechod ni."(adnodau 23 i 25).

Cymodi yw sy'n gwneud yn iawn drwy aberth. Fe wnaeth aberth Iesu ein dawelu digofaint Duw a chreu cymod rhyngddo a phawb roddodd eu ffydd ynddo e. Gan fod Duw yn casáu pechod, yr unig ffordd y gallem ni, fel pechaduriaid, gael perthynas ag e yw drwy Iesu'n rhoi ei fywyd i dalu 'r pris am ein pechod. Does dim rhaid ufuddhau i ennill ffafr Duw. Mae Crist wedi ennill ffafr Duw ar dy ran. Felly, dydy dy ffyddlondeb di fyth yn daliad ofnus, ond yn gân o ddiolchgarwch i Dduw wnaeth dy gyfarfod ble roeddet ti a gwneud i ti beth na allet ti fod wedi'i wneud drosot ti dy hun.

Diwrnod 9Diwrnod 11

Am y Cynllun hwn

Paul Tripp's Daily Thanksgiving Devotional

Mae cyfnod y diolchgarwch yn gyfle i gpfio'r holl bethau da mae Duw wedi'u rhoi i ni, yn ei ras. Ond weithiau, mae prysurdeb y tymor yn ein cadw rhag cymryd amser i ddiolch i Dduw am ei holl roddion. Bydd y defosiynau llawn anogaeth yma gan Paul David Tripp yn cymryd ddim mwy na 5 munud i'w darllen, ond yn dy annog i fyfyrio ar drugaredd Duw ar hyd y diwrnod cyfan.

More

Hoffem ddiolch i Workmatters am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.crossway.org/books/new-morning-mercies-hcj/