Defosiwn Diolchgarwch Dyddiol Paul TrippSampl
Cymer eiliad i feddwl gyda fi! Wyt ti'n byw bywyd o fendith neu gwyno? Mae hi mor hawdd tuchan. Mae hi mor hawdd dod o hyd i feiau. Mae hi mor hawdd bod yn anfodlon. Mae hi mor hawdd meddwl fod pethau'n llai na hoffet ti iddyn nhw fod. Mae hi mor hawdd bod yn flin neu ddiamynedd. Mae hi mor hawdd cwyno am anawsterau bywyd. Mae hi mor hawdd bod yn anfodlon.
Pam fod y pethau hyn mor hawdd? Wel, mae nhw'n nhw'n hawdd oherwydd mae pechod yn ein cymell i wneud popeth droi o'n cwmpas ni. Yn ei hanfod, hunanoldeb ydy pechod, dŷn ni, i gyd, yn tueddu i gyfyngu ein hanghenion a'n teimladau o fewn ein byd bach ein hunain. Dŷn ni, wedyn, yn tueddu i farnu'r pethau da yn ein bywydau ar sail beth dŷn ni'n llwyddo i'w gael. Mae hi'n demtasiwn i anghofio am Dduw yn ein bywyd wrth fyw bywyd y fi fawr. Os wyt ti'n rhoi dy hun ynghanol dy fyd bach dy hun, rwyt yn siŵr o ddarganfod digon o bethau i gwyno amdanyn nhw.
Mae hi'n wir, hefyd, dy fod yn bwy mewn byd syrthiedig ble nad yw pobl a phethau'n gweithredu fel roedd Duw wedi'i fwriadu. Mae'r byd hwn yn wirioneddol doredig. Mae bywyd yma'n wirioneddol galed. Rwyt yn wynebu pob math o anawsterau, bach a mawr. Mae pobl yn dy siomi. Mae nhw'n gwneud dy fywyd yn galed. Mae yna rwystrau'n ymddangos o'th flaen. Mewn gwirionedd mae'r byd syrthiedig ar stepen dy ddrws bob dydd. Wrth gyfuno caledi bywyd yn y byd syrthiedig hwn gyda hunanoldeb pechod mae gennyt yr amodau cywir ar gyfer trychineb, neu o leiaf, bywyd o anfodlonrwydd truenus.
Nid yw'r Beibl yn ystyried fod tuchan a chwyno'n bethau bychain Yn Deuteronomium, pennod 1 mae Moses yn adrodd fel roedd pobl Israel yn cwyno am eu bywydau, ac ynghanol y cwyno yna roedd cwestiynau am ddaioni a doethineb Duw. Asesiad Duw o hyn oedd fod y bobl, drwy eu cwyno, wedi gwrthryfela'n ei erbyn, roedden nhw wedi dangos eu bod yn anfodlon i wneud beth roedd e wedi'u galw a'u galluogi nhw i wneud. Mae llawenydd neu cwyn dy galon wastad yn siapio dy barodrwydd i drystio Duw a dilyn ei ewyllys
Mae cwyno yn anghofio am ras Duw. Mae e'n anwybyddu'i bresenoldeb. Mae e'n methu gweld ei addewidion. Mae e'n rwystr rhag gweld ysblander ei greadigaeth. Mae e'n cwestiynu ei ddaioni, ffyddlondeb, a chariad. Mae e'n creu amheuaeth ei fod yna a bod o bwys ganddo. Os wyt yn credu yn Nuw a'i reolaeth e dros bopeth> sy'n bodoli, yna, mae'n rhaid i ti dderbyn fod dy holl gwyno, yn ei hanfod, yn gwyno'n ei erbyn e. Ydy, mae hi mor hawdd cwyno. Mae hi mor hawdd anghofio'r bendithion dyddiol sy'n disgyn ar bob un ohonom ni. Ein parodrwydd i gwyno yw dadl arall dros ras faddeugar ac achubol, mae Iesu, heb gwyno, wedi bod yn fodlon marw er mwyn i ni ei gael.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae cyfnod y diolchgarwch yn gyfle i gpfio'r holl bethau da mae Duw wedi'u rhoi i ni, yn ei ras. Ond weithiau, mae prysurdeb y tymor yn ein cadw rhag cymryd amser i ddiolch i Dduw am ei holl roddion. Bydd y defosiynau llawn anogaeth yma gan Paul David Tripp yn cymryd ddim mwy na 5 munud i'w darllen, ond yn dy annog i fyfyrio ar drugaredd Duw ar hyd y diwrnod cyfan.
More