Defosiwn Diolchgarwch Dyddiol Paul TrippSampl
Mae'n hollol wir mai un o'r pechodau mwyaf yn ein perthnasedd yw y pechod yw'r duedd i fod yn anghofus. ystyria'r ddameg yma gan Iesu:
“Dyna sut mae'r Un nefol yn teyrnasu – mae fel brenin oedd wedi benthyg arian i'w swyddogion, ac am archwilio'r cyfrifon. Roedd newydd ddechrau ar y gwaith pan ddaethon nhw â dyn o'i flaen oedd mewn dyled o filiynau lawer iddo. Doedd y swyddog ddim yn gallu talu'r ddyled, felly gorchmynnodd y meistr i'r dyn a'i wraig a'i blant gael eu gwerthu yn gaethweision, a bod y cwbl o'i eiddo i gael ei werthu hefyd, i dalu'r ddyled. “Syrthiodd y dyn ar ei liniau o'i flaen, a phledio, ‘Rho amser i mi, ac fe dalaf i'r cwbl yn ôl i ti.’ Felly am ei fod yn teimlo trueni drosto, dyma'r meistr yn canslo'r ddyled gyfan a gadael iddo fynd yn rhydd. Ond pan aeth y dyn allan, daeth ar draws un o'i gydweithwyr oedd mewn dyled fechan iddo. Gafaelodd ynddo a dechrau ei dagu, gan ddweud ‘Pryd wyt ti'n mynd i dalu dy ddyled i mi?’ Dyma'r cydweithiwr yn syrthio ar ei liniau a chrefu, ‘Rho amser i mi, ac fe dalaf i'r cwbl yn ôl i ti.’ Ond gwrthododd y dyn wrando arno. Yn lle hynny, aeth â'r mater at yr awdurdodau, a chafodd ei gydweithiwr ei daflu i'r carchar nes gallai dalu'r ddyled. “Roedd y gweision eraill wedi ypsetio'n fawr pan welon nhw beth ddigwyddodd, a dyma nhw'n mynd ac yn dweud y cwbl wrth y brenin. Felly dyma'r brenin yn galw'r dyn yn ôl. ‘Y cnaf drwg!’ meddai wrtho, ‘wnes i ganslo dy ddyled di yn llwyr am i ti grefu mor daer o mlaen i. Ddylet ti ddim maddau i dy gydweithiwr fel gwnes i faddau i ti?’ (Mathew, pennod 18, adnodau 23 i 33)
Gall pob un ohonom fod yn anghofus. Gallwn anghofio y godidowgrwydd o'r cariad a thrugaredd sydd wedi'i ddangos aton ni. Gallwn anghofio na fydden ni wedi gallu ennill neu haeddu y pethau gorau mewn bywyd; mae nhw gynon ni drwy ras. Dyma'r broblem: i'r un graddau ag y byddi di'n anghofio'r gras rwyt wedi'i dderbyn, y mae hi i'r un graddau'n hawdd iawn i ti anghofio estyn gras i ti faddau i bobl yn dy fywyd. Os wyt yn methu cario calon o ddiolchgarwch am y cariad rwyt wedi'i gael mor hael, mae hi'n hawdd i ti beidio caru eraill fel y dylet ti.
Mae hi wedi bod yn wir erioed nad oes person gwell i fod yn rasol na'r un sydd wedi'i ddarbwyllo ei fod e ei angen ei hun a'i fod wedi'i gael gan Dduw llawn trugaredd tyner. Mae e'n rhoi beth na fyddem wedi gallu ei ennill. pam, felly, dŷn ni'n troi a gwrthod rhoi nes bod eraill yn cyrraedd safon dŷn b=ni'n ei ddisgwyl? Mae'r alwad i faddau yn amlygu ar unwaith ein hangen ni am faddeuant. Mae'r alwad i fod yn rasol yn f=dangos gymaint dŷn ni angen gras. Mae'r alwad i faddau ar yr un pryd yn alwad i gofio a bod yn ddiolchgar. Pan wyt yn cofio pa mor bell wyt o gyrraedd y nod, mae gennyt dynerwch yn dy galon tuag at eraill nad ydyn nhw'n cyrraedd y nod, a rwyt eisiau iddyn nhw'r un gras sydd yr unig obaith i ti. O na fydd Duw yn rhoi'r gras i ni gofio a'r parodrwydd i roi i eraill beth rŷn ni wedi'i gael.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae cyfnod y diolchgarwch yn gyfle i gpfio'r holl bethau da mae Duw wedi'u rhoi i ni, yn ei ras. Ond weithiau, mae prysurdeb y tymor yn ein cadw rhag cymryd amser i ddiolch i Dduw am ei holl roddion. Bydd y defosiynau llawn anogaeth yma gan Paul David Tripp yn cymryd ddim mwy na 5 munud i'w darllen, ond yn dy annog i fyfyrio ar drugaredd Duw ar hyd y diwrnod cyfan.
More