Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Defosiwn Diolchgarwch Dyddiol Paul TrippSampl

Paul Tripp's Daily Thanksgiving Devotional

DYDD 8 O 12

Mae e'n un o'r pethau hynny dŷn ni oll yn dueddol o wneud. Dŷn ni'n tueddu i edrych am fywyd yn y llefydd anghywir. Dŷn ni'n dueddol o edrych am fywyd wrth edrych yn syth o'n blaenau pan ddylen ni fod yn edrych am fywyd ar i fyny. Rywsut ac mewn ryw fodd dŷn ni, oll, yn edrych i'r byd creadigol o'n cwmpas i roi bywyd i n i. Mae pob un ohonom yn cario gyda ni gatalog personol sy'n dweud, "petaswn i". "Petaswn i'n briod, baswn i'n hapus." "Petaswn i'n gallu bachu'r swydd yna, baswn i'n fodlon." "Petasem ni'n gallu prynu'r tŷ yna, dw i ddim yn meddwl y byddwn i eisiau dim arall." "Petasai fy mhriodas yn well, faswn i'n iawn." "Petasai fy mhlant yn troi allan yn iawn, baswn i'n fodlon." "Petaswn i ond yn gallu cyflawni _______, faswn i ddim eisiau dim arall." ""Petasem yn iawn yn ariannol, faswn i ddim yn cwyno ddim mwy."

"Beth bynnag sy'n dilyn dy "petaswn i" di, dyna ble rwyt yn edrych am fywyd, heddwch, llawenydd, gobaith, a bodlonrwydd parhaol yn y galon. Y broblem ydy, rwyt yn parhau i wario arian ar beth fydd fyth yn dy lenwi a gweithio'n rhy galed i gael beth fydd byth yn dy fodloni. Mae e'n lanast ysbrydol anferth sy'n dy adael yn dew, yn gaeth, mewn dyled, a dal gyda chalon anfodlon. Pam? Oherwydd, fydd y ddaear fyth yn waredwr i ti. Does gan y byd hwn a grëwyd, gyda'i olygfeydd, synau, lleoliadau, profiadau, a perthnasoedd, mo'r gallu i fodloni dy galon. Cynlluniwyd y byd hwn gan Dduw i'th bwyntio i gyfeiriad yr unig le y bydd dy galon yn darganfod bodlonrwydd a gorffwystra. Dim ond pan fydd dy galon yn darganfod gorffwystra yn Nuw, a Duw yn unig, y bydd dy galon yn gorffwys go iawn.

Felly, mae Iesu'n dweud, "Gwerthwch eich eiddo a rhoi'r arian i'r tlodion. Gofalwch fod gynnoch chi bwrs sy'n mynd i bara am byth, trysor sydd ddim yn colli ei werth. Dydy lleidr ddim yn gallu dwyn y trysor nefol, na gwyfyn yn gallu ei ddifetha." (Luc, pennod 12, adnod 33). Beth fyddi di'n clymu dy galon ato heddiw yn y gobaith y byddi di'n cael bywyd? I ble y byddi di'n edrych am hedwch a chalon dawel? Beth fyddi di'n ymgyrraedd ato i roi i ti obaith, hyder, a rheswm dros barhau? Ym mhle'n y greadigaeth wnei di edrych am yr hyn all y Crëwr, yn unig, ei roi i ti? Pa fara fyddi di'n brynu heddiw fydd fyth yn gallu llenwi dy angen ysbrydol?

Pam fyddet ti'n edrych i'r greadigaeth am yr hyn rwyt wedi ei gael yn barod yng Nghrist? Pam fyddet ti'n gofyn i'r byd hwn fod yn waredwr i ti pan mae Iesu wedi dod yn Waredwr i ti i roi i ti yn ei ras y cwbl rwyt ei angen?

Ysgrythur

Diwrnod 7Diwrnod 9

Am y Cynllun hwn

Paul Tripp's Daily Thanksgiving Devotional

Mae cyfnod y diolchgarwch yn gyfle i gpfio'r holl bethau da mae Duw wedi'u rhoi i ni, yn ei ras. Ond weithiau, mae prysurdeb y tymor yn ein cadw rhag cymryd amser i ddiolch i Dduw am ei holl roddion. Bydd y defosiynau llawn anogaeth yma gan Paul David Tripp yn cymryd ddim mwy na 5 munud i'w darllen, ond yn dy annog i fyfyrio ar drugaredd Duw ar hyd y diwrnod cyfan.

More

Hoffem ddiolch i Workmatters am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.crossway.org/books/new-morning-mercies-hcj/