Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Defosiwn Diolchgarwch Dyddiol Paul TrippSampl

Paul Tripp's Daily Thanksgiving Devotional

DYDD 4 O 12

Dŷn ni i gyd yn ei wneud e, bob dydd mwy na thebyg. Does gynnon ni ddim syniad ein bod ni'n ei wneud e, ond eto mae'n effeithio'n ddirfawr ar y ffordd dŷn ni'n edrych arnon ni ein hunain a'r ffordd dŷn ni'n ymateb i eraill. Mae e'n un o'r rhesymau mae yna broblemau perthynol, hyd yn oed yn nhŷ Duw. Beth ydy'r peth yma dŷn ni i gyd yn ei wneud sy'n achosi gymaint o ddrwg. Dŷn ni i gyd yn anghofio.

Ym mhrysurdeb a hunanganologrwydd ein bywydau, yn anffodus dŷn ni'n anghofio gymaint mae ein bywydau wedi'i fendithio gan a'i drawsnewid yn radicalaidd gan ras. Mae'r ffaith fod duw wedi ein bendithio gyda'i ffafr pan oedden ni'n haeddu ei lid yn pylu o'n cof fel cân oedden ni, ar un tro'n ei chanu, ond bellach wedi'i hanghofio. Mae'r gwirionedd o ras newydd yn gafael ynom bob bore ymhell o'r meddwl wrth i ni ruthro fel gafr ar daranau i baratoi ar gyfer y diwrnod. Pan dŷn ni'n rhoi ein pen ar obennydd ar ddiwedd y dydd ar gyfer cwsg angenrheidiol, y duedd ynom yw anghofio'r llu o fendithion lanwodd ein bywydau bach di-nod. Prin iawn yw'r cyfnodau hynny ble byddwn yn eistedd nôl a myfyrio ar sut byddai ein bywydau wedi bod petasai'r Gwaredwr heb sgwennu ei ras ar lech ein bywydau personol. Yn anffodus dŷn ni i gyd yn rhy anghofus o'i ras. Mae anghofio'i ras yn beryglus am ei fod yn siapio sut rwyt yn meddwl amdanat ti dy hun ac eraill.

Pan fyddi'n cofio am ras, rwyt hefyd yn cofio na wnest ti ddim i haeddu bendith y gras hwnnw. Pan fyddi'n cofio am ras, rwyt yn ostyngedig, diolchgar, a thyner. Pan wyt yn cofio am ras, mae diolchgarwch yn cymryd lle cwyno ac addoliad yn cymryd lle dymuniadau hunan-ganolog. Pan wyt yn anghofio am ras rwyt yn dy falchder yn dweud wrthot ti dy hun fod beth sydd gen ti oherwydd dy lwyddiant. Pan wyt yn anghofio gras rwyt yn canmol dy hun am beth allai gras yn unig fod wedi'i roi iti. Pan wyt yn anghofio gras, rwyt yn cyfri dy hun yn gyfiawn a haeddiannol a byw bywyd o hawlio.

Pan fyddi di'n anghofio am ras a meddwl dy fod yn haeddiannol, mae llawer rhy hawdd i ti fod yn rasol at eraill. Yn dy falchder rwyt yn meddwl dy fod yn cael yr hyn rwyt yn haeddu a hwythau hefyd. Nid yw dy galon balch yn dyner, felly nid yw wedi'i chyffwrdd gan gyflwr trist eraill. Rwyt yn anghofio dy fod yn debycach i dy frawd anghenus nac wyt yn sylweddoli, gan anghofio nad wyt ti, nac e'n haeddiannol. Mae gras tuag at eraill yn ffynnu mewn tir ble mae yna ostyngeiddrwydd,. Mae mwy o ras yn cael ei ysgogi gan y diolch sy'n cael ei roi am ras. Mae Paul yn dweud, "Eich lle chi ydy bod yn garedig, yn dyner gyda'ch gilydd, a maddau i'ch gilydd fel mae Duw wedi maddau i chi drwy beth wnaeth y Meseia." (Effesiaid, pennod 4, adnod 32)

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Paul Tripp's Daily Thanksgiving Devotional

Mae cyfnod y diolchgarwch yn gyfle i gpfio'r holl bethau da mae Duw wedi'u rhoi i ni, yn ei ras. Ond weithiau, mae prysurdeb y tymor yn ein cadw rhag cymryd amser i ddiolch i Dduw am ei holl roddion. Bydd y defosiynau llawn anogaeth yma gan Paul David Tripp yn cymryd ddim mwy na 5 munud i'w darllen, ond yn dy annog i fyfyrio ar drugaredd Duw ar hyd y diwrnod cyfan.

More

Hoffem ddiolch i Workmatters am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.crossway.org/books/new-morning-mercies-hcj/