Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Defosiwn Diolchgarwch Dyddiol Paul TrippSampl

Paul Tripp's Daily Thanksgiving Devotional

DYDD 3 O 12

Rwyt ti a minnau angen ei ddweud wrthon ni ein hunain drosodd a throsodd. Dŷn ni angen cyffesu bob bore fel rhan o'n trefn boreol. Dyma dŷn ni, i gyd, angen dweud: "Dydw i ddim yn raddedig o ran gras." Mae'r hawdd iawn cael ein temtio i hel esgusion am dy gyfiawnderau dy hun.

"Nid chwant oedd hwnna go iawn. Dw i ddim ond yn ddyn sy'n mwynhau prydferthwch."

"Nid hel clecs oedd hynna go iawn. Dim ond cais gweddi bersonol a manwl oedd e."

"Do'n i ddim yn flin efo'r plant. Ro'n i ddim ond yn dweud fel byddai un o broffwydi Duw, 'felly, mae'r Arglwydd yn ddweud'."

Dw i ddim, ar ryw daith yn chwilio am bŵer personol."

"Dw i ddim yn galon galed a chybyddlyd. Dw i ddim ond eisiau stiwardio beth mae Duw wedi'i roi i mi."

"Nid bod yn falch o'n i. Ro'n i ddim ond yn meddwl fod angen i rywun reoli'r sgwrs."

"Nid celwydd oedd e go iawn. Dim ond ffordd wahanol o adrodd y stori."

Dŷn ni, i gyd, yn meddwl ein bod yn fwy cyfiawn nag ydyn ni mewn gwirionedd. Dŷn ni ddim yn hoffi meddwl ein bod dal angen gras achubol Duw. A dŷn ni'n sicr ddim eisiau wynebu'r ffaith mai'r hyn dŷn ni angen ein hachub oddi wrtho ydy ni'n hunain! Pan rwyt yn dadlau dros dy gyfiawnder dy hunan, yn gweithio'n galed i wadu tystiolaeth empirig o dy bechod, yna ti'n methu chwilio am y gras anhygoel, dy unig obaith. Dim ond i bechaduriaid mae gras yn atyniadol.. dim ond y tlawd sy'n chwilio'n eiddgar am gyfoeth daioni Duw.

Dim ond y rheiny sy'n cydnabod eu bod yn dal i ddioddef afiechyd ysbrydol pechod sy'n edmygu iachâd ysbrydol y Meddyg Mawr. Mae hi'n drasiedi ein bod yn gwadu ein hangen am ras Duw weddill yr wythnos ar ôl moli Duw am ei ras ar y Sul. Waeth i ti wynebu'r ffaith heddiw na wnei di fyth dyfu allan o'r angen am ras, waeth faint bynnag rwyt yn dysgu ac aeddfedu, nes dy fod gadael y byd hwn a dy frwydr ar ben, oherwydd bod pechod ar ben (gweler Philipiaid, pennod 3, adnodau 12-16). Y ffordd i ddathlu y gras mae Duw'n ei roi i ti mor hael, bob dydd, yw cydnabod faint wyt ti ei angen.

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Paul Tripp's Daily Thanksgiving Devotional

Mae cyfnod y diolchgarwch yn gyfle i gpfio'r holl bethau da mae Duw wedi'u rhoi i ni, yn ei ras. Ond weithiau, mae prysurdeb y tymor yn ein cadw rhag cymryd amser i ddiolch i Dduw am ei holl roddion. Bydd y defosiynau llawn anogaeth yma gan Paul David Tripp yn cymryd ddim mwy na 5 munud i'w darllen, ond yn dy annog i fyfyrio ar drugaredd Duw ar hyd y diwrnod cyfan.

More

Hoffem ddiolch i Workmatters am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.crossway.org/books/new-morning-mercies-hcj/