Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Defosiwn Diolchgarwch Dyddiol Paul TrippSampl

Paul Tripp's Daily Thanksgiving Devotional

DYDD 2 O 12

Hunan-ffocysu a bod yn hunangyfiawn yw eiddigedd. Rwyt yn cael dy daflu i ganol dy fyd dy hun. Mae'r cwbl amdanat ti. Mae e'n dweud wrthot ti dy fod yn haeddu beth dwyt ti ddim yn ei haeddu. Mae eiddigedd yn ddisgwylgar ac yn gofyn llawer. Mae eiddigedd yn dweud dy fod yn rywun nad wyt, a bod hawl gen ti i'r hyn nad wyt yn berchen arno. Ni all eiddigedd ddathlu bendith un arall am ei fod yn dweud wrthyt bod gen ti fwy o hawl. Mae eiddigedd yn dweud dy fod wedi ennill beth na allet fyth ei ennill. Dydy byd eiddigedd ddim yn cymysgu â byd o ras fwy na tase olew yn cymysgu efo dŵr. Mae eiddigedd yn anghofio pwy wyt ti. pwy yw Duw. ac yn ffwndrus ynglŷn â beth yw ystyr bywyd.

Eto, ar ôl dweud hynny i gyd, y ffaith yw, dŷn ni i gyd yn stryglo gydag eiddigedd mewn ryw fodd neu'i gilydd, ac yn ystod ryw gyfnod. Dŷn ni'n eiddigeddus o'r person nesaf aton ni sydd wedi llwyddo'n ariannol a ninnau heb. Dŷn ni'n hiraethu y byddai ein priodas mor hapus â'n ffrindiau'n yr eglwys. Dŷn ni synfyfyrio am y swydd sydd gynnon ni pan mae rywun arall mewn swydd mor foddhaol. Dŷn ni'n eiddigeddus o'r grŵp mae'r person arall yn cymysgu efo nhw, sy'n ymddangos yn gymuned mor gariadus. Dŷn ni'n eiddigeddus o gymaint y mae'r person yna'n bwyta ac eto'n aros mor denau ag y mae hi. Mae'r dyn tal yn meddwl pam ei fod mor dal, a'r dyn bach yn meddwl mor braf byddai gallu edrych i lawr ar rywun am unwaith.. Mae'r person gyda gwallt cyrliog yn dymuno cael gwallt syth a'r person gwallt syth yn chwennych gwallt cyrliog. Mae'r person clyfar yn eiddigeddus o'r un sydd ddim mor glyfar a'r un sydd ddim mor glyfar yn chwennych graddau gwell.

Mae eiddigedd yn fyd-eang, yn union fel mae pechod. Mae gwreiddyn eiddigedd yn hunanoldeb pechod (gweler 2 Corinthiaid, pennod 5, adnodau 14 i 15). Mae eiddigedd yn hunan-ffocysu, am ei fod yn hunan-ffocysu, am ei fod yn hunan-ffocysu mae e'n rhoi hawl, am ei fod yn rhoi hawl mae e'n gofyn llawer, am ei fod yn gofyn llawer, mae e'n dueddol o feirniadu daioni Duw pa un ai os yw wedi rhoi i ti beth wyt ti'n feddwl ti'n haeddu; ac am ei fod yn beirniadu Duw ar y sail hynny, mae e'n dy arwain i gwestiynu ei ddaioni. Am dy fod yn cwestiynu daioni Duw, fyddi di ddim yn rhedeg ato am help. mae eiddigedd yn drychineb ysbrydol.

Mae gras yn dy atgoffa nad wyt ti'n haeddu dim, on nid yw'n stopio'n y fan yna - mae e'n dy herio gyda'r gwirionedd fod Duw yn odidog o gariadus, a charedig, ac yn hael tuag atom gyda phethau na allen ni fyth fod wedi'u hennill. Mae gras, hefyd, yn ein hatgoffa fod duw yn ddoeth a byth yn cael y cyfeiriad anghywir - mae e'n rhoi i ni'n union beth dŷn ni'n ei haeddu.

Oherwydd
Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Paul Tripp's Daily Thanksgiving Devotional

Mae cyfnod y diolchgarwch yn gyfle i gpfio'r holl bethau da mae Duw wedi'u rhoi i ni, yn ei ras. Ond weithiau, mae prysurdeb y tymor yn ein cadw rhag cymryd amser i ddiolch i Dduw am ei holl roddion. Bydd y defosiynau llawn anogaeth yma gan Paul David Tripp yn cymryd ddim mwy na 5 munud i'w darllen, ond yn dy annog i fyfyrio ar drugaredd Duw ar hyd y diwrnod cyfan.

More

Hoffem ddiolch i Workmatters am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.crossway.org/books/new-morning-mercies-hcj/