Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Clywed Llais DuwSampl

Hearing The Voice Of God

DYDD 11 O 11

Sgwenna fe i lawr

Darllena adnod heddiw

Os wyt ti eisiau clywed Duw'n siarad rhaid iti gilio i le tawel, aros yn amyneddgar, ac yn ddisgwylgar ofyn i Dduw roi darlun iti o'r hyn mae e eisiau'i ddweud wrtho ti, ac yna sgwennu i lawr ymateb Duw i'th gwestiynau.

Yn Habacuc mae'r Arglwydd yn gorchymyn hyn i'r awdur, "“Ysgrifenna'r neges yma yn glir ar lechi, i'r negeswr sy'n rhedeg allu ei ddarllen yn hawdd" (Habacuc, pennod 2, adnod 2 beibl.net).

Dyna sut gawson ni lyfr Habacuc. Ym mhennod un., sgwennodd Habacuc beth roedd e wedi'i ddweud wrth Dduw. Ac ym mhennod dau, sgwennodd beth ddwedodd Duw wrtho nôl.

Dyna sut gawson ni lyfr y Salmau. Amser tawel Dafydd yw e. Myfyriodd Dafydd ar bum llyfr cyntaf y Beibl, y Torah, ac yna sgwennodd i lawr ei feddyliau, ac fe'u galwyd yn Salmau. Mewn nifer o'r salmau mae e'n dechrau drwy ddweud sut mae e'n teimlo ac yna'n gorffen gyda beth mae Duw'n ei ddweud.

Os yw dy fywyd gweddi yn sownd mewn rhigol, a rwyt yn tueddu i weddïo am yr un pethau - "Dduw bydd gyda'r person hwn/hon" neu "Bendithia'r bwyd hwn i'n cyrff" - yna, dyma beth rwyt ti angen i'w wneud Dechreua sgwennu dy weddïau i;lawr.

"Beth? Does dim rhaid imi eu dweud? Yn hollol! Mae eu sgwennu i lawr yn weddi. Mae Duw'n gallu eu clywed yn dy feddwl. Dos ati i'w sgwennu i lawr.

Ydy hi'n iawn i sgwennu gweddi i lawr ac yna ei darllen? Wrth gwrs ei bod hi. Wrth iti ei sgwennu rwyt yn ei gweddïo. Pan rwyt yn ei darllen, rwyt yn gweddïo.

Mae hyn yn cael ei alw'n arferiad ysbrydol o gofnodi, ac yn un y dylai pob Cristion ei deall a'u harfer.

Nid dyddiadur yw cyfnodolyn. Mae dyddiadur yn cofnodi beth wnes ti. Mae cyfnodolyn am yr hyn rwyt wedi'i ddysgu - y camgymeriadau wnes ti a beth wnes ti ei ddysgu o'r pethau hynny.

Ysgrythur

Diwrnod 10

Am y Cynllun hwn

Hearing The Voice Of God

Wyt ti eisiau clywed gan Dduw? Yn y gyfres hon, mae Parch Rick yn dy helpu i ddeall y rhwystrau sy'n dy gadw rhag clywed Duw a'r newidiadau sydd rhaid i ti eu gwneud yn dy fywyd i adnabod a gwneud ei ewyllys.

More

Y defosiwn hwn © 2014 by Rick Warren. Cedwir pob hawl. defnyddiwyd gyda chaniatâd.