Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Clywed Llais DuwSampl

Hearing The Voice Of God

DYDD 5 O 11

Syniad hollol Feiblaidd

Darllena adnodau heddiw.

Yn aml byddwn yn meddwl os oedd syniad ddaeth i ni, gan Dduw, neu'n dwyll gan Satan, neu ddim ond yn rhywbeth dŷn ni eisiau ei wneud. Mae'n hanfodol i wybod y gwahaniaeth a sut mae dirnad llais Duw, oherwydd gall gael goblygiadau allanol.

Mae lot o ddrygioni'n cael ei feio ar Dduw pan mae pobl yn dweud, "Duw ddwedodd wrthyf i i wneud!" Mae'r Beibl yn dweud yn 1 Ioan, pennod 4, adnod 1, "Ffrindiau annwyl, peidiwch credu pawb sy'n dweud eu bod nhw'n siarad drwy'r Ysbryd. Rhaid i chi eu profi nhw i weld os ydy beth maen nhw'n ddweud wir yn dod oddi wrth Dduw..." (beibl.net).

Ydy'r syniad yn dy ben nawr yn cytuno â'r Beibl? Oherwydd ni fydd un Duw fyth yn gwrth-ddweud Gair Duw. Dydy Duw ddim yn dweud un peth ac yna'n newid ei feddwl a dweud rhywbeth arall. Os ddwedodd e rhywbeth, mae'n wir, ac bydd yn aros felly am byth.

Mae Duw'n gyson. Dydy e ddim yn oriog. Dydy e ddim yn newid ei feddwl. Wnaiff e fyth ddweud wrthyt ti i dorri egwyddor mae e eisoes wedi'i roi yn ei Air, y Beibl.

Felly,y cwestiwn cyntaf rwyt ti angen ei ofyn yw, "Ydy'r syniad yma'n gyson gyda beth mae Duw wedi'i ddweud yn barod?" Os yw'r hyn sy'n dy feddwl yn gwrth-ddweud beth mae Duw wedi'i ddweud yn y Beibl, yna rwyt yn gwybod ei fod yn anghywir.

Dwedodd Iesu yn Luc, pennod 21, adnod 33, "Bydd yr awyr a'r ddaear yn diflannu, ond mae beth dw i'n ddweud yn aros am byth" (beibl.net). Mae Gair Duw'n dragwyddol achos dydy'r gwir byth yn newid. Os oedd rhywbeth yn wir 5000 o flynyddoedd yn ôl, roedd yn wir 1000 o flynyddoedd yn ôl. Mae'n wir heddiw a bydd yn wir 5000 o flynyddoedd yn y dyfodol o heddiw.

Fe all pobl ddweud, "Duw ddwedodd e, dw i'n ei gredu e, dyna ddiwedd ar y mater." Na! Duw ddwedodd e, a dyna ddiwedd ar y mater - pa un ai os wyt yn ei gredu ai peidio!

Os yw Duw'n dweud rhywbeth wrthyt ti, dydy e ddim yn mynd i'w wrth-ddweud fyth. Y cwestiwn cyntaf mae'n rhaid iti ei ateb yw, "Ai yw'r syniad yma mewn harmoni â Gair Duw?"
Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Hearing The Voice Of God

Wyt ti eisiau clywed gan Dduw? Yn y gyfres hon, mae Parch Rick yn dy helpu i ddeall y rhwystrau sy'n dy gadw rhag clywed Duw a'r newidiadau sydd rhaid i ti eu gwneud yn dy fywyd i adnabod a gwneud ei ewyllys.

More

Y defosiwn hwn © 2014 by Rick Warren. Cedwir pob hawl. defnyddiwyd gyda chaniatâd.