Clywed Llais DuwSampl
Cyn i Dduw siarad, penderfyna ddweud, "Gwnaf"
Darllena adnod heddiw.
Mae Duw'n siarad â phobl sydd wedi penderfynu gwneud beth mae e'n ddweud wrthyn nhw, hyd yn oed cyn iddo ddweud dim. Mae'n dweud, "Dduw, os wyt ti eisiau imi symud, fe wna i symud. Os wyt ti eisiau imi briodi, wna i briodi. Os wyt ti eisiau imi adael y swydd yma, wna i adael y swydd yma,. Hyd yn oed cyn iti ddweud wrtho i, fy ateb yw "Gwnaf". Beth bynnag wyt ti eisiau imi ei wneud, fe'i gwnaf."
Mae Luc, pennod 8,, adnod 15 yn dweud, "Ond yr hadau syrthiodd i bridd da ydy'r bobl hynny sy'n clywed y neges ac yn dal gafael i'r diwedd – pobl sydd â chalon agored ddidwyll. Mae'r effaith ar eu bywydau nhw fel cnwd anferth" (beibl.net).
Ro'n i'n arfer astudio'r ddameg hon gan Iesu ac yn meddwl ei fod yn siarad am bedwar math o bobl: rheiny sy'n gwrthsefyll, rheiny sy'n arwynebol, rheiny sy'n brysur, a rheiny sy'n dda."
Ond, mae'r ddameg hon yn cynrychioli pedair agwedd i ddweud y gwir,. Fedri di gael y pedair agwedd i gyd ar yr un diwrnod. I ddechrau medri di fod yn dweud, "Dduw, dw i ddim eisiau clywed gen ti achos dw i'n gwybod beth rwyt ti'n mynd i'w ddweud, a'r funud nesaf, "Arglwydd, dweda wrtho fi ar frys." Yna, rwyt yn ei glywed ac yn meddwl ei fod yn dda, ond yn gwneud dim am y peth. Falle fod y ffrwyth yn dechrau aeddfedu yn dy fywyd, ond yna rwyt yn ymgolli'n dy waith neu ysgol, neu blant ac mae'r chwyn yn dechrau cymryd drosodd. Yna, droeon eraill byddi'n dweud, "Dduw, rwy'n hollol agored i beth bynnag rwyt ti ei eisiau."
Mae Duw eisiau iti gael agwedd o ufudd-dod fel dy fod yn gallu dwyn ffrwyth - y term Beiblaidd am fod yn llwyddiannus Mae Duw eisiau iti lwyddo yn dy fusnes, teulu, perthnasoedd, dy berthynas ag e ac eraill, a'th iechyd.
Felly, sut wyt ti'n dwyn ffrwyth pan mae Duw'n dweud rhywbeth wrthot ti? Rwyt yn ei basio ymlaen. Pan fydd Duw'n dweud rhywbeth wrthot ti, y ffordd gyflymaf iddo ddwyn ffrwyth yn dy fywyd yw dweud wrth rywun beth rwyt newydd ei ddysgu.
Mae cyfieithiad arall o Luc, pennod 8, adnod 15 yn dweud, "Maen nhw'n gwrando ar eiriau Duw ac yn glynu wrthyn nhw ac yn eu lledaenu'n raddol i eraill sydd hefyd yn credu'n fuan ” (cyfieithiad rhydd o'r adnod o 'Living Bible').
Y defosiwn yma © 2014 gan Rick Warren. Cedwir pob hawl. Defnyddiwyd trwy ganiatâd.

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Wyt ti eisiau clywed gan Dduw? Yn y gyfres hon, mae Parch Rick yn dy helpu i ddeall y rhwystrau sy'n dy gadw rhag clywed Duw a'r newidiadau sydd rhaid i ti eu gwneud yn dy fywyd i adnabod a gwneud ei ewyllys.
More
Y defosiwn hwn © 2014 by Rick Warren. Cedwir pob hawl. defnyddiwyd gyda chaniatâd.