Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Clywed Llais DuwSampl

Hearing The Voice Of God

DYDD 3 O 11

Ydy dy feddwl di'n rhy brysur?

Darllena adnodau heddiw,

Fedri di ddim clywed Duw os wyt ti'n meddwl a phoeni am bethau eraill - yn enwedig gofidiau, cynlluniau a gweithgareddau. Os wyt ti byth a hefyd yn gwrando ar y radio, neu wylio'r teledu, mae dy feddwl yn mynd i fod yn rhy brysur pan fydd Duw'n dy alw. Mae'n rhaid iti ddileu'r pethau sy'n tynnu dy sylw.

Mae Iesu'n dweud yn Luc, pennod 8, adnod 7, "A dyma beth yn syrthio i ganol drain. Tyfodd y drain yr un pryd a thagu'r planhigion" (beibl.net).

Dyma'r math o dir ble mae chwyn yn tyfu ganlyn y cnydau ond wrth i'r cnwd dyfu mae'r chwyn yn tagu'r cnwd felly mae'n methu dwyn ffrwyth.

Dyma mae Iesu'n ddweud yw'r ystyr yn Luc, pennod 8, adnod 7: "Yna'r rhai syrthiodd i ganol drain ydy'r bobl sy'n clywed y neges, ond mae poeni drwy'r adeg am bethau fel cyfoeth a phleserau yn eu tagu, a dŷn nhw ddim yn aeddfedu (Luc, pennod 8, adnod 14 beibl.net).

Mae yna dri pheth sy'n rhwystr i glywed Duw:

Gofid. Mae gofidiau fel chwyn. Pan wyt ti mor brysur gyda phroblemau a phwysau bywyd bob dydd, mae'n anoddach i glywed Duw.

Cyfoeth. Mae'n bosib i ti fod mor brysur gyda thrio talu biliau, cael dy hun allan o ddyled, mor brysur yn trio ennill mwy o bres, ac mor brysur gyda gwneud bywoliaeth fel nad wyt yn byw.

Pleser. Does dim o'i le ar bleser. Ond dwedodd Duw, pan wyt wrthi mor brysur yn rhedeg ar ôl cael hwyl. Rwyt ti'n colli golwg ar beth yw ei gynllun e ar gyfer dy fywyd.

Does dim rhaid iti drin chwyn. Maen nhw'n tyfu'n awtomatig ond ydyn nhw? I ddweud y gwir mae chwyn yn arwydd o esgeulustod. Os wyt ti'n gweld chwyn yn dy iard gefn neu ardd, mae'n golygu nad wyt ti'n gofalu am dy iard neu ardd. Mae'r chwyn yn dy fywyd ysbrydol yn arwydd o esgeuluso amser gyda Duw.

Pan mae dy feddwl yn rhy brysur, mae'n amser iti dawelu.
Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Hearing The Voice Of God

Wyt ti eisiau clywed gan Dduw? Yn y gyfres hon, mae Parch Rick yn dy helpu i ddeall y rhwystrau sy'n dy gadw rhag clywed Duw a'r newidiadau sydd rhaid i ti eu gwneud yn dy fywyd i adnabod a gwneud ei ewyllys.

More

Y defosiwn hwn © 2014 by Rick Warren. Cedwir pob hawl. defnyddiwyd gyda chaniatâd.