Clywed Llais DuwSampl
Mae Ffrwyth yn tarddu o Wreiddiau Dwfn.
Darllena adnod heddiw.
Yn ystod y gwanwyn, mae'r holl laswellt yn Ne California yn troi'n wyrdd, mae'r blodau gwyllt a'r pabis yn blodeuo, ac mae'n hardd iawn. Ond unwaith mae'r glawogydd yn stopio, mae'r bryniau'n troi'n llwm eto. Pam? Oherwydd nad oes yna wraidd i'r glaswellt. Dydy e ddim yn treiddio'n ddigon dwfn i gyrraedd y dŵr o'r ffynhonnau sy'n ddwfn o dan y ddaear.
Pan nad oes yna wraidd, pan mae planhigyn mewn tir heb ddyfnder, falle y bydd yn gwreiddio ar y dechrau ac yn edrych yn dda, ond dydy e ddim yn para. Mae'r planhigion yn gwywo'n sydyn am nad oes ganddyn nhw wraidd.
Mae Luc, pennod 8, adnod 13 yn dweud, "Y rhai ar y tir creigiog ydy'r bobl hynny sy'n derbyn y neges yn frwd i ddechrau, ond dydy'r neges ddim yn gafael ynddyn nhw. Maen nhw'n credu am sbel, ond pan ddaw'r amser iddyn nhw gael eu profi maen nhw'n rhoi'r gorau iddi" (beibl.net).
Yn aml, byddwn yn clywed gair Duw ac yn llawn cynnwrf o'i glywed, ond dydyn ni ddim yn caniatáu iddo'n newid ni. Dŷn ni'n actio'n arwynebol. Dŷn ni'n ymateb yn emosiynol. Dŷn ni'n ymateb yn fyrbwyll. Ond dŷn ni ddim yn rhoi amser i fyfyrio arno.
Wyt ti eisiau bod fel yna, go iawn? Na! Rwyt eisiau bod yn berson ystyriol, nid un arwynebol. Rwyt angen bod yn berson gyda gwreiddyn ysbrydol dwfn fel pan ddaw encilio a phara am flynyddoedd rwyt yn gallu dal ati i ddwyn ffrwyth. Pan mae'r gwyntoedd cryfion yn dod ac mae un o'r teulu'n cael salwch neu mae rhywun yn marw, dydy'r profiad ddim yn dy synnu a chei dy daro drosodd, am nad oes gen ti wreiddyn.
Sut wyt ti'n meithrin gwreiddyn ysbrydol? Mae dwy ffordd: amser bob dydd gyda Duw, ac amser bob wythnos gyda chredinwyr arall. Mae'n rhaid iti dreulio amser ar ben dy hun gyda Duw, ac mae'n rhaid iti dreulio amser gyda chredinwyr arall.
Os nad wyt ti'n treulio amser gyda Duw bob dydd, rwyt ti'n mynd i wywo a disgyn drosodd pan mae pethau'n anodd. Fyddi di ddim yn gallu dygymod. Mae'n rhaid iti wneud amser i wrando ar Dduw. Rhaid iti eistedd a bod yn dawel. Rhaid iti ddarllen y Beibl a siarad efo Duw, chwarae cerddoriaeth, os wyt ti'n hoffi cadw dyddiadur, gwna hynny. Beth bynnag mae hi'n gymryd i gadw dy ffocws ar Dduw, gwna fe!

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Wyt ti eisiau clywed gan Dduw? Yn y gyfres hon, mae Parch Rick yn dy helpu i ddeall y rhwystrau sy'n dy gadw rhag clywed Duw a'r newidiadau sydd rhaid i ti eu gwneud yn dy fywyd i adnabod a gwneud ei ewyllys.
More
Y defosiwn hwn © 2014 by Rick Warren. Cedwir pob hawl. defnyddiwyd gyda chaniatâd.