Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Clywed Llais DuwSampl

Hearing The Voice Of God

DYDD 6 O 11

Mae Ufudd-dod yn arwain at Heddwch

Darllena adnodau heddiw.

Os wyt ti wedi dy orlethu neu'n wedi drysu wrth drio gwneud penderfyniad, mae'n debygol dy fod yn gwrando arnat dy hun yn lle llais Duw. Mae'r Beibl yn dweud, "Duw'r heddwch ydy Duw, dim Duw anhrefn!" (1 Corinthiaid, pennod 14, adnod 33a beibl.net). Nid e yw awdur dryswch. Felly os wyt ti wedi drysu, dealla hyn, nid llais Duw sy'n siarad yn dy fywyd.

Os wyt ti'n rhiant wyt ti eisiau i dy blant deimlo dan bwysau neu'n ddryslyd pan fyddi'n gofyn iddyn nhw wneud rhywbeth? Na. Rwyt ti eisiau iddyn nhw ddeall beth i'w wneud ac ymateb mewn ufudd-dod. Mae Duw eisiau run peth gennyt ti.

Yr unig amser y gall pwysau fod yn ddilys yw, pan mae Duw'n gofyn iti wneud rhywbeth a ti'n dweud, 'na', byth a hefyd. Yna, mae'r pwysau'n mynd i gynyddu, ond mae yna "heddwch" bob tro y byddi'n ateb, "gwnaf" i'r hyn mae Duw'n ofyn iti ei wneud.

Mae Satan eisiau ein gorfodi, ond mae Duw eisiau bod yn dosturiol. Mae Satan eisiau cymryd mantais a defnyddio'r orfodaeth arnom i reoli ein bywyd. Ond ein Bugail Da yw Duw. Mae e eisiau ein denu ato'i hun a heddwch.

Arferai Peter Lord ddweud, "Mae nawdeg y cant o beth mae Duw eisiau ei ddweud wrthot ti'n anogaeth." Os mai'r cwbl rwyt ti'n clywed gan Dduw yw negeseuon negyddol, mae rhywbeth o'i le. Mae yna gamddealltwriaeth.

Os wyt ti'n teimlo fod Duw wedi dweud wrthot ti i wneud rhywbeth ac mae dy bryder yn cynyddu o'i herwydd, yna mae yna gamddealltwriaeth. Mae rhywbeth o'i le.

Mae'r Beibl yn dweud wrthon ni, "Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser. 7 Byddwch chi'n profi'r heddwch perffaith mae Duw'n ei roi – y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg – yn gwarchod eich calonnau a'ch meddyliau wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu" (Philipiad, pennod 4, adnod 6 i 7 beibl.net).
Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Hearing The Voice Of God

Wyt ti eisiau clywed gan Dduw? Yn y gyfres hon, mae Parch Rick yn dy helpu i ddeall y rhwystrau sy'n dy gadw rhag clywed Duw a'r newidiadau sydd rhaid i ti eu gwneud yn dy fywyd i adnabod a gwneud ei ewyllys.

More

Y defosiwn hwn © 2014 by Rick Warren. Cedwir pob hawl. defnyddiwyd gyda chaniatâd.