Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Clywed Llais DuwSampl

Hearing The Voice Of God

DYDD 8 O 11

Gwna amser i fod yn dawel
Darllena adnod heddiw
Dydy Duw ddim yn mynd i siarad â ti os oes lot o sŵn yn dy fywyd. Rhaid iti fod ar ben dy hun, a bod yn dawel. Dŷn ni'n galw hyn yn amser tawel.
Dyma mae Iesu'n ei ddweud yn Mathew, pennod 6, adnod 6: "Pan fyddi di'n gweddïo, dos i ystafell o'r golwg, cau y drws, a gweddïo ar dy Dad sydd yno gyda ti er dy fod ddim yn ei weld. Wedyn bydd dy Dad, sy'n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti" (beibl.net)
Yr allwedd tuag at clywed Duw'n siarad a gweld ei weledigaeth ar gyfer dy fywyd ydy hyn: Mae Duw eisiau cyfarfod â ti.
Mae angen iti sylweddoli nad wyt ti'n disgwyl am Dduw, fe sy'n disgwyl amdanat ti. Wnaeth Duw sy greu i gael perthynas ag e. Mae e eisiau iti dreulio amser ag e bob dydd. Mae eisiau iti drefnu amser penodol bob dydd. Mae Duw'n disgwyl.
Mae dod o hyd i le tawel yn reit anodd heddiw. Dw i ddim yn meddwl dy fod yn sylweddoli gymaint o sŵn sydd yn dy fywyd. Mae'r radio 'mlaen yn dy gar drwy'r adeg, neu' ngwisgo clustffonau drwy'r adeg, neu mae'r Bluetooth ymlaen. Mae yna gerddoriaeth ymlaen mewn sawl siop a lle cyhoeddus. Prin iawn yw'r llefydd yn dy fywyd ble mae hi'n hollol dawel.
Os oes gen ti blant, mae hyd yn oed yn anoddach. Ond gad imi roi rywfaint o obaith iti. Roedd gan Susanna Wesley, un o ferched mwyaf hanes, 18 o blant. Un o'i meibion, John, sefydlodd yr Eglwys Fethodistaidd, a lledu Cristnogaeth arall, Charles, mwy na 6000 o emynau.
Sut mae cael amser tawel gydag 18 o blant? Yn ei chofiant mae'n dweud bod Susanna Wesley yn mynd ac eistedd yn ei hoff gadair siglo pob pnawn a thaflu ei ffedog dros ei phen am awr. Roedd y plant yn gwybod fod ffedog dros ben mam yn golygu, "Does neb i darfu ar mam n eu bydd yna le yma!"
Mae Wesley'n dweud mai gweddïau ei fam siapiodd ei fywyd. Mae modd iti ddod o hyd i amser ar ben dy hun os wyt ti bron â thorri dy fol. Gwna amser i fod yn dawel a chwrdd â'r Arglwydd.
Y defosiwn yma © 2014 gan Rick Warren. Cedwir pob hawl. Defnyddiwyd trwy ganiatâd.

Ysgrythur

Diwrnod 7Diwrnod 9

Am y Cynllun hwn

Hearing The Voice Of God

Wyt ti eisiau clywed gan Dduw? Yn y gyfres hon, mae Parch Rick yn dy helpu i ddeall y rhwystrau sy'n dy gadw rhag clywed Duw a'r newidiadau sydd rhaid i ti eu gwneud yn dy fywyd i adnabod a gwneud ei ewyllys.

More

Y defosiwn hwn © 2014 by Rick Warren. Cedwir pob hawl. defnyddiwyd gyda chaniatâd.