Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Clywed Llais DuwSampl

Hearing The Voice Of God

DYDD 9 O 11

Pa ddewis wyt ti'n ei wneud: Iesu neu teledu yn hwyr y nos?
Darllena adnod heddiw.
Y rheswm dydy'r rhan fwyaf o bobol ddim yn clywed Duw'n siarad â nhw ydy, dŷn nhw ddim yn arafu digon i adael i Duw siarad iddyn nhw. Brysio ydy marwolaeth gweddi.! Rhaid iti arafu. Rhaid iti fod yn dawel. A rhaid iti aros yn amyneddgar.
Mae Salm 37, adnod 7 yn dweud, "Bydd yn amyneddgar wrth ddisgwyl am yr ARGLWYDD" (beibl.net)
Yr unig ffordd y gelli di wneud hyn a chodi'n gynnar yw, bod rhaid iti fynd i'r gwely 30 munud yn gynt. Felly, mae'r penderfyniad yn dibynnu ar hyn: Gyda phwy rwyt ti eisiau treulio dy amser, Iesu neu Radio Cymru neu ryw orsaf arall? Dy ddewis di yw hynny! Oherwydd rwyt ti'n mynd i orfod codi'n gynnar fel nad wyt yn brysio ac yn gallu treulio amser gyda Duw ar ddechrau'r diwrnod.
Does dim byd ar y teledu'n hwyr y nos i newid dy fywyd. Dim byd! Bydd treulio'r 30 munud yn y bore gyda Duw, fodd bynnag, yn newid dy fywyd.
Petawn i'n dweud fod brenhines Lloegr, arlywydd yr Unol Daleithiau a'r pab eisiau dy gyfarfod bore yfory am 4 y bore, fyddet ti, mwy na thebyg, ddim yn mynd i dy wely heno. Byddet ti'n cael bath - dau o bosib! Byddet ti'n cael torri dy wallt, cael siwt newydd, ac yn gwneud dy hun yn smart. Byddet ti yna, 30 munud yn gynnar.
Mae Creawdwr y bydysawd eisiau dy gyfarfod bore yfory! Does dim angen iti hyd yn oed wisgo amdanat. Gelli di aros yn dy byjamas. Does dim angen gadael dy gartref hyd yn oed. Ond mae'n rhaid iti drefnu apwyntiad. Mae hynny'n golygu fod rhaid iti stopio gwneud rhywbeth fel sy fod yn gallu gwneud beth mae Duw eisiau iti ei wneud. Os wyt ti'n ceisio gwneud gormod yn yr amser byrraf posib dwyt ti ddim yn mynd i fod mor effro ag rwyt yn ei obeithio. Mae'n rhaid iti benderfynu beth sydd bwysicaf, 30 munud o deledu'n hwyr y nos, neu 30 munud gyda Duw bob bore.
Un diwrnod mae Duw'n mynd i ofyn iti, "Pa un wnes ti ei ddewis?"

Ysgrythur

Diwrnod 8Diwrnod 10

Am y Cynllun hwn

Hearing The Voice Of God

Wyt ti eisiau clywed gan Dduw? Yn y gyfres hon, mae Parch Rick yn dy helpu i ddeall y rhwystrau sy'n dy gadw rhag clywed Duw a'r newidiadau sydd rhaid i ti eu gwneud yn dy fywyd i adnabod a gwneud ei ewyllys.

More

Y defosiwn hwn © 2014 by Rick Warren. Cedwir pob hawl. defnyddiwyd gyda chaniatâd.