Clywed Llais DuwSampl
Agora dy lygaid i Weledigaeth Duw
Darllena adnodau heddiw.
Mae'r Beibl yn llawn o gannoedd o esiamplau o bobl yn derbyn gweledigaeth Duw, fel Eseia, Jeremeia, Daniel, Jona, a Micha, Dydy gweld gweledigaeth Duw ar gyfer dy fywyd ddim yn beth gorffwyll. Mae Duw'n aml yn defnyddio darlun yn y meddwl i wneud y cam nesaf mae e am iti ei gymryd, yn eglur.
Does dim rhaid imi egluro hyn i lot ohonoch chi am eich bod yn meddwl mewn darluniau. Pan ych chi'n darllen stori o'r Beibl gallwch weld y stori mewn lliw llawn. Wrth ddarllen llyfr dych chi'n darlunio'r stori yn eich meddwl drwy'r adeg.
Ond i'r gweddill ohonom mae'n tipyn anoddach. Dw i ddim yn meddwl mewn darluniau. Dw i'n tueddu i feddwl mewn geiriau, nid lluniau.
Felly sut wyt ti'n gweld gweledigaeth Duw os nad wyt ti'n meddwl mewn darluniau.
Yn gyntaf, gofynna i Dduw gwestiwn penodol.
Yn dy amser tawel, ar ôl darllen a gweddïo, falle dy fod wedi bod yn dawel ac yn disgwyl gerbron Duw. Gelli di ofyn, "Dduw, oes rhywbeth rwyt ti eisiau ei ddweud wrtho i?" Ac yna rwyt ti'n disgwyl. "Dduw oes yna unrhyw beth imi feddwl amdano dw i ddim yn meddwl amdano?" Ac yna rwyt ti i ddisgwyl.
Mae Iago, pennod 1, adnod 5 yn dweud, "Os oes angen doethineb ar rywun, dylai ofyn i Dduw. Mae Duw yn rhoi yn hael i bawb sy'n gofyn, ac yn gwneud hynny heb oedi na phwyntio bys at eu beiau nhw" (beibl.net). Mae Duw eisiau iti ofyn iddo am gyngor, ac mae eisiau iti fod yn benodol. Mae e'n disgwyl iti ofyn!
Yn ail, edrych ar Air Duw i weld beth mae Duw, falle'n ei ddweud wrthot ti.
Mae Salm 119, adnod 18 yn adnod y dylet ti ei dysgu ar dy gof: "Agor fy llygaid, i mi allu deall
y pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu dysgu" (beibl.net). Mae'n adnod dda i'w gweddïo wrth iti agor Gair Duw. Mae pob ateb i bob cwestiwn yn y llyfr yna. Ond, mae'n rhaid iti ei ddarllen, ei astudio, ei roi ar gof, a myfyrio arno wrth iti geisio gweledigaeth Duw ar gyfer dy fywyd neu hyd yn oed heddiw'n unig.
Y defosiwn yma © 2014 gan Rick Warren. Cedwir pob hawl. Defnyddiwyd trwy ganiatâd.

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Wyt ti eisiau clywed gan Dduw? Yn y gyfres hon, mae Parch Rick yn dy helpu i ddeall y rhwystrau sy'n dy gadw rhag clywed Duw a'r newidiadau sydd rhaid i ti eu gwneud yn dy fywyd i adnabod a gwneud ei ewyllys.
More
Y defosiwn hwn © 2014 by Rick Warren. Cedwir pob hawl. defnyddiwyd gyda chaniatâd.