Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Clywed Llais DuwSampl

Hearing The Voice Of God

DYDD 7 O 11

Mae angen iti fod eisiau clywed gan Dduw

Darllena adnodau heddiw.

Dwyt ti ddim yn mynd i glywed gan Dduw heblaw dy fod wirioneddol eisiau clywed ganddo. Dw i ddim yn dweud maI opsiwn yw e. Dw i ddim yn dweud y bydde'n neis. Mae'n anghenraid!

Wnaiff Duw ddim dweud ei freuddwyd ar gyfer dy fywyd os yw e'n gwybod na fyddi di'n ei gwestiynu. Wnaeth Duw ddim dy roi ar y ddaear dim ond iti ddweud, "Gad imi feddwl amdano."

Na! Rhaid iddo fod yn anghenraid. Rhaid iti ddweud, "Dw i angen gwybod pam dw i yma. Dw i angen gwybod beth wyt ti eisiau imi wneud efo fy mywyd. Dw i angen clywed dy lais. Dw i angen gweld dy weledigaeth.

Sgwennodd y Brenin Dafydd hyn yn Llyfr y Salmau, "O Dduw, dw i'n dod i wneud beth rwyt ti eisiau - fel mae wedi ei ysgrifennu amdana i yn y sgrôl" (Salm 40, adnod 8 beibl.net).

Roedd yna angerdd yng ngeiriau Dafydd a'r hyn roedd eisiau ei wneud fwyaf oedd anrhydeddu Duw. Doedd e ddim yn fater o opsiwn i fod yn ufudd a dilyn Duw iddo e. Dyma'r unig beth roedd Dafydd eisiau ei wneud. Defnyddio eiriau fel, "Dw i'n dyheu amdano", "Dw i'n crefu amdano", "Dw i'n llwglyd amdano", "Dw i fel carw 'n brefu am ddŵr."

Pan fyddi'n anobeithio, rwyt yn mynd i glywed gan Dduw.

Mae lot o bobl yn siarad â Duw, ond dydyn nhw ddim yn clywed gan Dduw. Iddyn nhw monolog yw gweddi. Ond, fedri di ddim cael perthynas ar sail monolog. Beth petawn i'n siarad â'm gwraig, ond hi ddim yn siarad â fi? Nid perthynas yw hynny. Mae'n rhaid cael sgwrs. Mae siarad â Duw mewn gweddi run mor bwysig â gwrando ar Dduw a gadael iddo siarad â ti. Sut mae hynny'n digwydd? I ddechrau, mae'n rhaid i ti ei eisiau yn fwy na dim arall.

Mae Deuteronomium, pennod 4, adnod 29 yn dweud, "Ond os gwnewch chi droi at yr ARGLWYDD yno, a hynny o ddifrif – â'ch holl galon, ac â'ch holl enaid – byddwch yn dod o hyd iddo" (beibl.net). Mae hynny'n bendant!
Diwrnod 6Diwrnod 8

Am y Cynllun hwn

Hearing The Voice Of God

Wyt ti eisiau clywed gan Dduw? Yn y gyfres hon, mae Parch Rick yn dy helpu i ddeall y rhwystrau sy'n dy gadw rhag clywed Duw a'r newidiadau sydd rhaid i ti eu gwneud yn dy fywyd i adnabod a gwneud ei ewyllys.

More

Y defosiwn hwn © 2014 by Rick Warren. Cedwir pob hawl. defnyddiwyd gyda chaniatâd.