Gobaith yn y TywyllwchSampl
Y prawf gorau o gariad yw trystio
_Joyce Bothers
chytbwysMae Habacuc yn cynnig i ni fodel anhygoel o ymateb iachus am y newyddion gwaethaf y gallai fod wedi'i dderbyn gan Dduw. Hyd yn oed wrth i'w gorff ymateb, sylweddolodd fod ganddo ddewis am yr hyn yr oedd yn mynd i'w gredu. Gallai ymddiried yn ei emosiynau. Gallai ymddiried yn ei farn gyfredol am y sefyllfa. Neu gallai ymddiried y gallai Duw rywsut ddod â daioni allan o senario anhygoel - y Babiloniaid yn goresgyn eu gwlad.
Yn dy fywyd gall deimlo fel bod y Babiloniaid wedi anrheithio tirwedd dy galon. Falle dy fod yn galaru dros golledion ddigwyddodd flynyddoedd yn ôl. Ond, hyd yn oed ynghanol yr holl boen yna, os elli di ddewis i drystio Duw er gwaethaf pob math o dystiolaeth i'r gwrthwyneb, yna gelli dorri trwodd i lefel newydd o agosatrwydd gydag e. Byddi'n ymwybodol o'i bresenoldeb ynghanol dy ddioddefaint. Byddi'n trystio ei gymeriad pan fyddi di ddim yn deall dy amgylchiadau. Yna, waeth bynnag fydd yn digwydd, waeth pa mor boenus mae'r gwayw yn dy galon, gelli ddal ati i fynd yn dy flaen, gam wrth gam, bob dydd.
Yn yr un modd â Habacuc yn troi'n un gonest am yr hyn rwyt wedi'i golli neu'n mynd i'w golli, hyd yn oed wrth i ti sylweddoli bod Duw dal yna i ti.
"Er bod fy mhriod wedi dweud, hyd at farwolaeth fyddwn ni ddim yn gwahanu, er na chadwyd yr addewid yna, eto byddaf yn dal i lawenhau yn yr Arglwydd fy Nuw."
"Er i mi fagu fy mhlant i wybod yn well a maen nhw'n gwneud penderfyniadau brawychus ar hyn o bryd, eto byddaf yn dal i lawenhau yn yr Arglwydd fy Nuw."
"Er ein bod wedi gweddïo i iechyd rywun well ac maen nhw wedi mynd yn waeth, eto byddaf yn dal i lawenhau yn yr Arglwydd fy Nuw."
Er nad yw ein tŷ yn gwerthu, eto byddaf yn dal i lawenhau yn yr Arglwydd fy Nuw."
Er nad yw ein sefyllfa ariannol yn dda, ac mae angen cannoedd i drwsio'r car, eto byddaf yn dal i lawenhau yn yr Arglwydd fy Nuw."
"Er nad ydw i'n ei hoffi, er nad ydw i'n ei ddeall, er mod i'n gwybod y gallai e ac y gallai e, ond dydy e ddim, eto byddaf yn dal i lawenhau yn yr Arglwydd fy Nuw."
GweddïaEr bydd ,,, fe wna i dy drystio. Ti yw fy Nuw.
Am y Cynllun hwn
Mae'r cynllun Beibl hwn ar gyfer unrhyw un sydd mewn poen ac ddim yn deall pam. Os wyt ti wedi colli rywbeth, rywun, neu mae dy ffydd wedi'i brofi i'r eithaf, yna, mae'r Cynllun Beibl hwn o lyfr gweinidog Life Church, Craig Groeschel, Hope in the Dark, o bosib, yn union beth sydd angen arnat ti. Os wyt ti eisiau credu, ond ddim yn siŵr sut, mae hwn ar dy gyfer di.
More