Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gobaith yn y TywyllwchSampl

Hope In The Dark

DYDD 6 O 12

Ffydd wedi'i brofi

Dw i'n o'r rhai hynny fydde'n well gen i foddi heb ffydd na nofio hebddo.

-Stanley Baldwin, Prif Weinidog Prydain

Beth os wyt ti'n byw drwy ffydd ac eto dwyt ti ddim yn gweld addewid Duw wedi'i gyflawni i ti yn dy fywyd? Elli di feiddio credu y bydd e'n dal i gadw ei addewid, hyd yn oed os na fyddi di'n ei weld yn ystod dy amser ar y ddaear? Ydy e''n bosib y gallet ti dyfu mor agos at Dduw fel dy fod yn gallu dal i'w garu er gwaethaf dy siomiant?

Mae Habacuc yn athro da i ni ar yr wers hon, oherwydd chadwodd Duw mo'i addewid tan y genhedlaeth nesaf a chosbi'r Babiloniaid.

Mae hynny'n amser hir i ddisgwyl.

Ond roedd yr Arglwydd dal yn ffyddlon.

Mae Habacuc yn rhoi tri gair bach i ni y gallwn ddal gafael ynddyn nhw pan mae'n ymddangos nad yw Duw wedi cyflawni'r hyn wnaeth e ei addo. Waeth bynnag beth rwyt yn mynd drwyddo, paid byth a gollwng gafael yn y geiriau hyn.

Os wyt ti eisiau tyfu'n agos at Dduw-pa waeth bynnag-yna, dyma'r tri gair rwyt angen eu cofio ar dy daith tuag at agosatrwydd a thrystio llwyr, a ffydd ynddo:

"Ond mae'r ARGLWYDD..."

Cei hyd i'r geiriau yma yn Habacuc, pennod 2, adnod 20, ble mae'r proffwyd, ar ôl cydnabod ei fod dal yn anhapus am beth sy'n mynd yn ei flaen yn dweud, ""Ond mae'r ARGLWYDD yn ei balas sanctaidd. Ust! Mae'r byd i gyd yn fud o'i flaen!” (beibl.net).

Falle bod y byd yn edrych ben ei waered,ond mae'r Arglwydd dal yna.

Pan nad oes unrhyw le arall gen ti i droi, pan mae dy syniadau a'th adnoddau dy hun wedi diflannu, pan mae dy reolaeth dros sefyllfa wedi chwalu, mae Duw dal yna. Pan mae dy bengliniau yn brifo o benlinio a fedri di ddim dweud os yw e'n gwrando, mae Duw dal yna.

Waeth beth sy'n digwydd yn dy fywyd, mae'r Arglwydd yn ei deml sanctaidd.

Gweddïa:O Dduw, a wnei di ganiatáu Duw i mi brofi dy bresenoldeb mewn ffyrdd newydd? A wneid di ddangos pa mor agos wyt ti?

Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Hope In The Dark

Mae'r cynllun Beibl hwn ar gyfer unrhyw un sydd mewn poen ac ddim yn deall pam. Os wyt ti wedi colli rywbeth, rywun, neu mae dy ffydd wedi'i brofi i'r eithaf, yna, mae'r Cynllun Beibl hwn o lyfr gweinidog Life Church, Craig Groeschel, Hope in the Dark, o bosib, yn union beth sydd angen arnat ti. Os wyt ti eisiau credu, ond ddim yn siŵr sut, mae hwn ar dy gyfer di.

More

Hoffem ddiolch i'r Parch Craig Groeschel a Life.Church.tv am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://craiggroeschel.com/