Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gobaith yn y TywyllwchSampl

Hope In The Dark

DYDD 11 O 12

Creda

Dw i'n credu mewn Cristnogaeth, yn union fel dw i'n credu bod yr haul wedi codi: nid am fy mod yn ei weld, ond, am fy mod yn gweld popeth arall o'i herwydd.

-C.S.Lewis

Mae gobaith go iawn angen sylfaen gadarn. Fel mae awdur yr Hebreaid yn esbonio, " Ffydd ydy'r sicrwydd fod beth dŷn ni'n gobeithio amdano yn mynd i ddigwydd. Mae'n dystiolaeth sicr o realiti beth dŷn ni ddim eto'n ei weld. Dyma pam gafodd pobl ers talwm eu canmol gan Dduw" (Hebreaid, pennod 11, adnod 1 beibl.net). Heb ein bod yn credu yng nghymeriad Duw - a'n perthynas ag e - fel ein sylfaen, waeth i ni gredu yn Siôn corn, neu ryw ap.

Dw i'n sylweddoli fod yr holl syniadau haniaethol hyn fel credu'n gallu teimlo bellter cred oddi wrth y treialon echrydus y gallet ti fod yn ei brofi ar hyn o bryd. Ond, efallai, nad yw credu, yn haniaethol. Falle, mai hewn yw'r unig sylfaen ble mae popeth yn cael ei ysgwyd. Dyma sut wnaeth Paul ei ddarlunio, "A dŷn ni'n gallu bod yn llawen hyd yn oed pan dŷn ni'n dioddef, am ein bod ni'n gwybod fod dioddefaint yn rhoi'r nerth i ni ddal ati. Mae'r gallu i ddal ati yn cryfhau ein cymeriad ni, a dyna sy'n rhoi i ni'r gobaith hyderus sydd gynnon ni. Dŷn ni'n gwybod y byddwn ni ddim yn cael ein siomi yn y gobaith yna, am fod Duw eisoes wedi tywallt ei gariad yn ein calonnau drwy roi'r Ysbryd Glân i ni! (Rhufeiniaid, pennod 5, adnodau 3 i 5 beibl.net)

Yn fy marn i dyma oedd dilyniant Paul o ddioddefaint i agosatrwydd gyda Duw: Pan fyddwn yn mynd drwy gyfnos o ddioddefaint, dŷn ni'n cymryd Duw ar ei Air, gan gredu ei fod e'n dal i reoli, gyda phwrpas penodol mewn golwg. Felly, dŷn ni'n dal i fynd gan ddibynnu arno e'n gyfan gwbl. Wrth i ni ddal ati, o awr i awr, diwrnod i ddiwrnod, wythnos i wythnos, dŷn ni'n dod yn gryfach. Mae ein ffydd yn tyfu, rŷn ni aeddfedu mwy, a'n tryst yn Nuw yn cynyddu. Wrth i ni gryfhau, dŷn ni'n credu yn naioni Duw, mwy na ein amgylchiadau. Dŷn ni'n dysgu i gredu'n addewidion Duw.

Gall credu yn Nuw fod yn sylfaen gadarn i ti.

Os wyt ti am ddal i gredu, yna, fe wnaiff Duw dy gwrdd yn dy ymdrechion i gredu. Er y byddi'n taflu dy Feibl ar draws yr ystafell a chodi dwrn ar Dduw, neu'n ei gwestiynu, fel wnaeth Habacuc, bydd Duw'n anrhydeddu dy ymlid angerddol. Os wyt ti eisiau profi agosatrwydd a gofal Duw wrth i ti brofi treialon - a rwyt ti'n dymuno ei brofi e fwy na sefyllfaoedd gwahanol - yna byth yn cerdded ochr yn ochr â ti.

Gweddïa:O Dduw, dw i'n dewis credu dewis yn dy ddaioni a'th gariad. Dw i'n credu yn Iesu, dy Fab, a beth wnaeth e i'm hachub i. A wneid di ddod yn sylfaen yn fy mywyd?

Os wyt ti newydd weddïo i wneud Iesu'n sylfaen yn dy fywyd, darllen hwn: ..

Diwrnod 10Diwrnod 12

Am y Cynllun hwn

Hope In The Dark

Mae'r cynllun Beibl hwn ar gyfer unrhyw un sydd mewn poen ac ddim yn deall pam. Os wyt ti wedi colli rywbeth, rywun, neu mae dy ffydd wedi'i brofi i'r eithaf, yna, mae'r Cynllun Beibl hwn o lyfr gweinidog Life Church, Craig Groeschel, Hope in the Dark, o bosib, yn union beth sydd angen arnat ti. Os wyt ti eisiau credu, ond ddim yn siŵr sut, mae hwn ar dy gyfer di.

More

Hoffem ddiolch i'r Parch Craig Groeschel a Life.Church.tv am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://craiggroeschel.com/