Gobaith yn y TywyllwchSampl
Pan fyddi'n cwestiynu ac yn Credu
Mae dygnwch yn fwy na dim ond y gallu i ddygymod â rywbeth anodd, ond hefyd y gallu i'w droi'n orfoledd.
-William Barclay, Gweinidog Albanaidd
Dydw i ddim yn gwybod beth rwyt yn mynd drwyddo ar hyn o bryd neu wedi'i oroesi'n barod. Ond dw i'n gwybod hyn: Mae Duw yn dda. Duw sy'n ein caru gymaint fel ei fod wedi aberthu ei Fab gwerthfawr, y rhodd mwyaf allai fyth ei roi i ni, fel y gallwn ei adnabod, ei ogoneddu ar y ddaear, a threulio tragwyddoldeb gydag e, yn y nefoedd.
Mae e'n ein caru gymaint â hynny. Dŷn ni'n gallu ei garu - a rhywun arall - dim ond am ei fod wedi ein caru ni gyntaf.
Pan fydd pethau anodd yn digwydd, a'r gorau wyt ti'n gallu ei wneud yw ceisio credu. mae hynny'n ddigon. Paid stopio bod eisiau credu.
Caniatâ i'r gwreichionyn bach o obaith dyfu drwy gredu bod Duw yna wrth dy ymyl. Gweddïa a gofyn i Dduw dy helpu i oroesi dy anghrediniaeth. Fel Habacuc, gofynna dy gwestiynau a bydd yn barod i wrando ar Duw'n ymateb.
Fy ngweddi yw y byddi'n tyfu i gael y math o ffydd oedd gan Habacuc, a welwn ym mhennod 3. Ond y peth ydy, fedri di ddim cael y ffydd a welwn ym mhennod 3 heb yn gyntaf gael y math o gwestiwn a welwn ym mhennod 1, a'r math o ddisgwyl ym mhennod 2. Oherwydd, yn amlach na pheidio, mae duw'n gwneud mwy yn ysbrydol yn y dyffryn nac ar ben y mynydd.
Does gen i mo'r atebion i gyd ar gyfer dy gwestiynau. Ond ar ôl caru a gwasanaethu Duw am dros naw mlynedd a'r hugain. dyma beth dw i'n galluddweud: Dw i wedi cerdded gydag Iesu drwy ddigon o ddoeau i'w drystio gyda phob yfory a ddaw.
A wyt ti eisiau tyfu'n agosach at Dduw? A wyt ti eisiau'r agosatrwydd hwnnw, fwy nag wyt ti eisiau bywyd cyfforddus, ddi-hid, a bywyd di-broblem?
Felly, paid byth â stopio bod eisiau credu.
Gelli gael gobaith yn y tywyllwch. Oherwydd, wrth i ti dyfu yn dy adnabyddiaeth o Dduw, bydd yn dadlennu mwy o'i gariad, ei ffyddlondeb, a'i ras. A thros amser, byddi di'n sylweddoli, a chofleidio, fod Duw yn dda, hyd yn oed pan mae bywyd yn anodd.
Gweddïa:O Dduw, dw i'n credu dy fod yn dda, a dw i'n barod i dyfu'n agosach atat ti. Dw i am ddal ati ar y6 daith hon. Amen.
Am y Cynllun hwn
Mae'r cynllun Beibl hwn ar gyfer unrhyw un sydd mewn poen ac ddim yn deall pam. Os wyt ti wedi colli rywbeth, rywun, neu mae dy ffydd wedi'i brofi i'r eithaf, yna, mae'r Cynllun Beibl hwn o lyfr gweinidog Life Church, Craig Groeschel, Hope in the Dark, o bosib, yn union beth sydd angen arnat ti. Os wyt ti eisiau credu, ond ddim yn siŵr sut, mae hwn ar dy gyfer di.
More