Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gobaith yn y TywyllwchSampl

Hope In The Dark

DYDD 4 O 12

Disgwyl

Dysga ni, O Dduw, disgyblion amynedd, bod disgwyl, yn aml, yn anoddach na gweithio.

-Peter Marshall

Does dim rhaid i'r rhan fwyaf ohonom aros am ddim byd ddim mwy. Meddylia, pa mor ddiamynedd rwyt ti'n teimlo pan fo'r deintydd ar ei hôl hi gyda'i amserlen. Mae'n dy yrru'n benwan yn dydi?

Yn ôl pob tebyg doedd Habacuc ddim yn dda am ddisgwyl ychwaith. Fodd bynnag, gwyddai mai dyna fyddai raid iddo'i wneud nesaf os oedd i lwyddo gyda dod allan o ddyffryn dibyniaeth. Dwedodd Duw wrtho, "Mae'n weledigaeth o beth sy'n mynd i ddigwydd; mae'n dangos sut fydd pethau yn y diwedd. Os nad ydy e'n digwydd yn syth, bydd yn amyneddgar – mae'n siŵr o ddod ar yr amser iawn" (Habacuc, pennod 2, adnod 3 beibl.net).



Y gair Hebraeg yma am "beth sy'n mynd i ddigwydd" yw mow’ed, sy'n golygu yr amser cywir, yr amser penodol, yr amser dewisedig dwyfol mae Duw yn caniatáu i rywbeth ddigwydd. Mae yna hen ddywediad yn dweud mai anaml y mae Duw'n gynnar, fyth yn hwyr, ac wastad ar amser i'r funud. Yn gryno dyna yw mow'ed.

Falle dy fod wedi bod yn gweddïo am beth sy'n teimlo fel amser hynod o hir i rywun rwyt yn ei garu i ddod i adnabod Crist. Falle dy fod yn gofyn i Dduw am fath arall o wyrth. I rywun gael eu hiachau. I rywun gael eu rhyddhau o gaethiwed i rywbeth. Am ddyrchafiad. Neu gymar. Felly rwyt yn gweddïo. Rwyt yn disgwyl.

Yna, rwyt yn disgwyl ychydig mwy.

Pan rwyt ti'n edrych drwy'r Ysgrythur, fe weli di esiampl ar ôl esiampl o bobl sydd wedi'u dewis gan Dduw, sy'n agos ato, sy'n dal i gael eu hunain yn disgwyl.

Dwedodd Duw wrth Moses, "Dw i'n mynd i dy ddefnyddio di i arwain fy mhobl ac ailadeiladu cenedl Israel." Yna, aeth Moses ar ddeugain mlynedd o daith. Deugain mlynedd!

Nawr, dyma un o fy ffefrynnau. Cafodd yr apostol Paul weledigaeth a chwrdd ag Iesu. Fe'i trawsnewidiwyd. "Dw i wedi fy ngalw i bregethu. Dyna pam dw i yma. Dyna'r cyfan. Dw i wedi fy nghymell i bregethu'r efengyl. Dyna yw fy unig bwrpas a roddwyd i mi gan Dduw." Ac yna, mae e'n disgwyl. Aeth tair mlynedd a'r ddeg heibio cyn i'r pwrpas hwnnw ddechrau. Tair mlynedd a'r ddeg cyn iddo gael cyfle i bregethu ei neges gyntaf!

Mae ambell reswm mewn bywyd pan fod raid disgwyl.

Gweddïa:Dw i'n barod i ddisgwyl. O Dduw, beth allaf i ei wneud i ddod i d'adnabod yn well tra dw i'n disgwyl?

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Hope In The Dark

Mae'r cynllun Beibl hwn ar gyfer unrhyw un sydd mewn poen ac ddim yn deall pam. Os wyt ti wedi colli rywbeth, rywun, neu mae dy ffydd wedi'i brofi i'r eithaf, yna, mae'r Cynllun Beibl hwn o lyfr gweinidog Life Church, Craig Groeschel, Hope in the Dark, o bosib, yn union beth sydd angen arnat ti. Os wyt ti eisiau credu, ond ddim yn siŵr sut, mae hwn ar dy gyfer di.

More

Hoffem ddiolch i'r Parch Craig Groeschel a Life.Church.tv am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://craiggroeschel.com/