Gobaith yn y TywyllwchSampl
Ble wyt ti Dduw?
Dydy'r ddynoliaeth ddim yn cyfaddef anobaith ar chwarae bach. Pan fydda nhw, mae teyrnas nefoedd yn agosáu.
-Philip Yancey
Trwy gydol ein bywydau dŷn ni i gyd yn cyrraedd cyfnodau ble dŷn ni'n ymladd â chwestiynau ysbrydol. Ro'n i'n adnabod dyn oedd wedi bod yn briod ers deunaw mlynedd, pan gafodd ei wraig ei lladd gan yrrwr car oedd wedi meddwi. Beth amser ar ôl y digwyddiad ro'n i gydag e pan ffrwydrodd gan ddweud, "Byddai Duw da ddim yn gadael i feddwyn gwirion fyw ar ôl lladd fy ngwraig! Dydw i ddim hyd yn oed yn siŵr os ydy Duw hyd yn oed t=yn bodoli. Ac os ydy e, wel, dydw i ddim eisiau dim i wneud â Duw fyddai'n gadael i rywbeth fel yna ddigwydd."
Dydw i ddim di profi colled fel y dyn yma, ond mae fy nghalon yn gwaedu drosto. Tu ôl i'r cwbl gallwn i weld ei fod eisiau trystio Duw. Yn yr union foment honno, ni allai gysoni’r boen yr oedd yn teimlo â delwedd Duw yr oedd am gredu ynddo.
Wnes i sgwennu'r llyfr a'r Cynllun Beibl hwn ar gyfer y nifer fawr o bobl sy'n ei chael hi'n anodd credu bod Duw yn poeni amdanyn nhw, yn enwedig pan maen nhw'n cael eu hunain yng nghanol argyfwng. Pan wyt ti'n baglu trwy ddyffryn, mae'n anodd gweld y golau. Rwyt ti eisiau credu, ond rwyt ti'n cael amser caled yn cysoni neges llawn gobaith y ffydd Gristnogol â'r hyn rwyt ti'n ei weld o'th gwmpas.
Fwy na 2.600 o flynyddoedd yn ôl gofynnodd Habacuc yr un cwestiynau mae pobl ar draws y byd yn eu gofyn heddiw. Yn ei ras, fe wnaeth Duw liniaru peth o ing Habacuc, er iddo beidio ateb cwestiynau eraill. Ond ar yr ochr arall i'w amheuon, tyfodd Habacuc yn berson â ffydd gyfoethocach, ffydd na fyddai efallai wedi datblygu mor llawn pe na bai wedi cael trafferth trwy ei amheuon. Byddwn yn darllen trwy ei stori dros y dyddiau nesaf.
Meddylia am y peth, petasai ti'n deall popeth yn gyfan gwbl, byddai gennyt ti ddim angen ffydd, fyddet ti? "Mae'n amhosib plesio Duw heb ffydd" (Hebreaid, pennod 11, adnod 6). Pam? 111111achos, mae'n rhaid i ffydd a thrystio ymddangos o gariad, nid o gytundeb busnes, gwerthiant, neu sefyllfa ble nad oes gynnon ni ddewis.
A wyt ti'n fodlon gofyn cwestiynau gonest? I ymladd?
Yn bwysicach byth, wyt ti'n fodlon gwrando am ateb Duw?
Gweddia:Dw i'n barod i ymladd gyda fy amheuon a chwestiynau. Dw i'n barod i wrando ar beth sydd gen ti i ddweud wrtho i Dduw. Amen.
Am y Cynllun hwn
Mae'r cynllun Beibl hwn ar gyfer unrhyw un sydd mewn poen ac ddim yn deall pam. Os wyt ti wedi colli rywbeth, rywun, neu mae dy ffydd wedi'i brofi i'r eithaf, yna, mae'r Cynllun Beibl hwn o lyfr gweinidog Life Church, Craig Groeschel, Hope in the Dark, o bosib, yn union beth sydd angen arnat ti. Os wyt ti eisiau credu, ond ddim yn siŵr sut, mae hwn ar dy gyfer di.
More