Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gobaith yn y TywyllwchSampl

Hope In The Dark

DYDD 2 O 12

Gwrando

Gwrando ar dy fywyd. Mae pob munud yn funud allweddol.

—Frederick Buechner

Bydd yn onest gyda thi dy hun. Prys oedd y tro diwethaf i ti eistedd a chael sgwrs gwirioneddolgo iawn gyda rywun, ble roeddech yn cymryd eich tro i wrando o ddifri ar beth oedd yn cael ei ddweud? Dim dyfeisiau, dim teledu, dim cerddoriaeth, dim bys i dynnu sylw.

Dydy ddim syndod ei bod hi'n mor anodd i ni wrando at Dduw.

Fel dŷn ni'n darllen yn Habacuc, pennod 1, fe wnaeth e ofyn yn eofn i Dduw yr holl gwestiynau caled oedd ar ei galon. Mae hi'n anodd caru rywun - hyd yn oed Creawdwr y bydysawd - os wyt ti'n dal dig ac yn cuddio dy deimladau go iawn. Roedd Habacuc yn amlwg yn caru Duw, ond wnaeth hynny mo'i gadw rhag herio Duw yn barchus gyda chais i'w helpu i ddeall y bwlch enfawr rhwng yr hyn a gredai a'r hyn a welodd o'i gwmpas.

Ar ôl i'r proffwyd orffen gofyn ei gwestiynau, gwyddai ei bod hi'n amser iddo wrando. Mae'r un peth yn wir ar dy gyfer di. Sgwennodd Habacuc, "Dw i'n mynd i sefyll ar y tŵr gwylio, ac edrych allan o wal y ddinas. Disgwyl i weld beth fydd Duw yn ei ddweud, a sut fydd e'n ateb y gŵyn sydd gen i.” (Habacuc, pennod 2, adnod 1 beibl.net, pwyslais ar f'un i). Dw i'n hoff iawn o'r delweddau hun, dw i'n mynd i sefyll ar y tŵr gwylio, ac edrych i weld beth fydd Duw yn ei ddweud wrtho i. Weithiau, y rheswm dŷn ni ddim yn cael ateb i'n cwestiynau ydy nad ydyn ni'n fodlon oedi a disgwyl ddigon hir i Dduw ddatgelu ei hun i ni.

Mae awdur Salm 46, adnod 10 yn dyfynnu Duw, "“Stopiwch! Mae'n bryd i chi ddeall mai Duw ydw i!"

Sylwa ar beth wnaeth Duw, nid dweud: "Bydd yn brysur, a deall mai Duw ydw i."

Dwedodd. Stopiwch." Stopio. A gwrando.

Sut wyt ti'n gwrando ar Dduw mewn gwirionedd? Rwyt yn gallu agor ei Air a gadael i'w Ysbryd ddod â gwirionedd yn fyw. Mae Duw yn siarad drwy amgylchiadau, os wyt ti'n oedi am ddigon o amser a myfyrio. Mae e'n siarad drwy bobl, gan gynnig doethineb dwyfol o'r nefoedd. A gall siarad yn uniongyrchol i ti drwy ei Ysbryd. Pan wyt ti'n perthyn iddo, treulia amser ag e, a bydd yn dawel o'i flaen, byddi di'n adnabod ei;lais.

Falle dy fod wedi bod yn gofyn i Dduw am beth wyt ti ei eisiau. Mae hynny'n hollol resymol, mae Duw eisiau i ni ymestyn allan ato. Ond wyt ti'n fodlon gwrando ar beth sydd gan e io ddweud wrthot ti, hyd yn oed os nad yw ei ateb yr hyn rwyt eisiau ei glywed? Dal ati i wrando. Ni fydd Duw yn dy adael yn dy amser o angen, bydd yn gynnal a'th ddal yn agos ato a'th gario drwy dy boen.

Gweddïa;O Dduw, dw i'n barod i wrando. Beth yw dy gynlluniau yn yr amgylchiadau hyn? Sut fedraf i dyfu drwy hyn?

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Hope In The Dark

Mae'r cynllun Beibl hwn ar gyfer unrhyw un sydd mewn poen ac ddim yn deall pam. Os wyt ti wedi colli rywbeth, rywun, neu mae dy ffydd wedi'i brofi i'r eithaf, yna, mae'r Cynllun Beibl hwn o lyfr gweinidog Life Church, Craig Groeschel, Hope in the Dark, o bosib, yn union beth sydd angen arnat ti. Os wyt ti eisiau credu, ond ddim yn siŵr sut, mae hwn ar dy gyfer di.

More

Hoffem ddiolch i'r Parch Craig Groeschel a Life.Church.tv am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://craiggroeschel.com/