Gobaith yn y TywyllwchSampl
Cofio
Os wyt ti'n meddwl fod Duw wedi dy anghofio, rwyt ti wedi anghofio pwy yw Duw.
-Anhysbys
Pan dw i'n y dyffryn, weithiau dw i angen cofio. Dw i'n dychwelyd at bwy dw i'n gwybod ydy Duw.
Mae pennod o Habacuc yn dechrau fel cân o addoliad sy'n cydnabod pa mor galed yw bywyd ond mae'n dal i gofio'r cwbl mae Duw wedi'i wneud. Mae'n gam arall, un fawr iawn, yn y daith allan o'r dyffryn.
Mae Habacuc yn gweddïo, "ARGLWYDD, dw i wedi clywed beth rwyt ti'n gallu ei wneud. Mae'n syfrdanol! Gwna'r un peth eto yn ein dyddiau ni. Dangos dy nerth yn ein dyddiau. Er dy fod yn ddig, dangos drugaredd aton ni!" (Habacuc, pennod , adnod beibl.net).
Dw i'n cofio pan o'n i'n coleg ac ar goll gymaint mwy na allet fyth ei ddychmygu, a gwaeddais ar enw Iesu, gan ofyn iddo - na bron ei herio, "Oswyt ti'n bodoli, ac os wyt ti yna, gwna rywbeth." Syrthiais ar fy ngliniau fel un person, ac yna pan godais ar fy nhraed, ro'n i'n berson hollol wahanol.
Ac yna, dw i'n cofio fel wnaeth Duw ddod ag Amy i mewn i'm mywyd i. Dw i'n ei thrysori hi, a'r rhodd oedd hi i mi ac yn parhau felly, gan Dduw.
Ac yna, dw i'n cofio pan anwyd ein merch Catie, a sut, pan oedd tua tair oed y syrthiodd i mewn i eiddew gwenwynig gan arwain at frech drosti. Cyn iddi fynd i'w gwely, dwedodd wrtho i, "Dadi, mae Iesu'n mynd i fy ngwella achos mod i wedi gweddïo." Dw i'n cofio meddwl, "Waw, dyna annwyl. Ond dw i ddim yn gwybod beth dŷn ni'n mynd i wneud os ydy hi dal yn frech drosti bore yfory." Dw i'n cofio bore wedyn Catie yn rhedeg i mewn i'n hystafell yn hollol noeth, yn llawn llawenydd, ac yn gweiddi, "Drychwch! Drychwch! Mae e wedi fy iachau!"
A roedd y frech wedi mynd yn gyfan gwbl.
Dw i'n cofio pan oeddwn i ac Amy, yn ifanc, a newydd ddechrau ein gweinidogaeth a heb ddim arian. Fe weddïon ni â'n gilydd, "O Dduw, dŷn ni ddim yn gwybod o ble daw ein bwyd yfory." Y diwrnod wedyn fe wnaethon ni dderbyn siec ad-daliad yn y post.
Beth wyt ti'n ei wneud pan wyt ti mewn dyffryn? Rwyt ti'n cofio beth wnaeth Iesu.
A rwyt yn meiddio credu y bydd yn gwneud eto, beth wnaeth o'r blaen.
Gweddïa: O Dduw, dw i'n cofio pa
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae'r cynllun Beibl hwn ar gyfer unrhyw un sydd mewn poen ac ddim yn deall pam. Os wyt ti wedi colli rywbeth, rywun, neu mae dy ffydd wedi'i brofi i'r eithaf, yna, mae'r Cynllun Beibl hwn o lyfr gweinidog Life Church, Craig Groeschel, Hope in the Dark, o bosib, yn union beth sydd angen arnat ti. Os wyt ti eisiau credu, ond ddim yn siŵr sut, mae hwn ar dy gyfer di.
More