Gobaith yn y TywyllwchSampl
Derbyn
Nid gwadu yw e. Wrth ddethol dw i'n ofalus o'r gwirionedd dw i'n ei dderbyn.
-Bill Watterson, Calvin and Hobbes
Weithiau, pan fyddwn yn cofio am y cwbl mae Duw wedi'i wneud drosom, dydy e ddim yn n ewid ein hamgylchiadau. Weithiau, mae'n rhaid derbyn ei fod tu hwnt i'n dealltwriaeth ar hyn o bryd a dal i fynd.Ond mae'n rhaid i ni sylweddoli hefyd nad yw derbyn yn golygu gwadu.
Pan fyddi'n derbyn beth mae Duw'n ei wneud, dwyt ti ddim yn diystyru dy deimladau a gadael i'th galon farw, hyd yn oed pan rwyt ti'n ymarfer dy wen yn y drych a dysgu adnodau o'r Beibl. Pan rwyt ti'n derbyn fod Duw wrthi'n gwneud rywbeth nad wyt ti'n gallu ei weld, nac yn ei ddeall, ar hyn o bryd, dwyt ti ddim yn rhoi'r ffidil yn y to, a derbyn ryw anobaith tebygol. Na, rwyt i ddal ati i weddïo gan ofyn am wyrth ganddo, heblaw ei fod yn dweud yn wahanol wrthot ti. Ond dwyt ti ddim yn cymryd arnat fod popeth yn iawn pan mae'n amlwg nad ydy e.
Allai Habacuc yn sicr ddim gymryd arno fod popeth yn iawn a chladdu'i ben yn y tywod. Ar ôl iddo holi Duw a chael ateb gan Dduw'n dweud ei fod am ddefnyddio'r Babiloniaid drygionus i ddifrodi Israel, dwedodd Habacuc, "Pan glywais y sŵn, roedd fy mol yn corddi, a'm gwefusau'n crynu. Roedd fy nghorff yn teimlo'n wan, a'm coesau'n gwegian (Habacuc, pennod 3, adnod 16 beibl.net).
Mae ei ateb yn dod o'i berfeddion. O bosib dy fod yn adnabod y teimlad hwnnw o foddi sy'n dod o'r perfedd pan mae rywbeth drwg ar fin digwydd, ac mae tu hwnt i dy reolaeth? Dyna'r hyn roedd Habacuc yn ei wynebu.
Pan dderbyniodd Habacuc y realiti tra'n disgwyl am Dduw. nid gwadu oedd e. Ffydd oedd e. Nid ffydd y byddai Duw yn gwneud beth oedd Habacuc am i Dduw ei wneud. Ond, ffydd yng nghymeriad Duw. Mae Habacuc yn parhau trwy ddweud, "Mae llaw sofran Duw yn gwneud rywbeth yma. Mae Duw wedi llefaru, felly fe wna i dderbyn beth bynnag mae e'n ei wneud, pa faint bynnag mor anodd fydd hynny i mi."
Weithiau mae rywbeth yn mynd i ddigwydd nad wyt yn ei hoffi. Fe allai fod yn digwydd nawr.
Rwyt tti'n cofio beth mae Duw wedi'i wneud. Rwyt ti'n derbyn beth mae Duw'nei wneud. Rwyt ti'n trystio beth mae Duw am ei wneud.
Gweddïa:O Dduw, Dw i ddim yn deall beth sy'n digwydd, ond dw i'n derbyn, rywsut dy fod di mewn rheolaeth.
Am y Cynllun hwn
Mae'r cynllun Beibl hwn ar gyfer unrhyw un sydd mewn poen ac ddim yn deall pam. Os wyt ti wedi colli rywbeth, rywun, neu mae dy ffydd wedi'i brofi i'r eithaf, yna, mae'r Cynllun Beibl hwn o lyfr gweinidog Life Church, Craig Groeschel, Hope in the Dark, o bosib, yn union beth sydd angen arnat ti. Os wyt ti eisiau credu, ond ddim yn siŵr sut, mae hwn ar dy gyfer di.
More