Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gobaith yn y TywyllwchSampl

Hope In The Dark

DYDD 10 O 12

Gobaith

Mae gobaith byw yn caniatáu i ni gael tristwch a llawenydd ill dau. Ein gobaith byw yw etifeddiad enillwyd i ni gan Grist.

-Tim Keller

Mae Llyfr Habacuc yn dod i ben gyda'i weddi, " Mae'r ARGLWYDD, fy meistr, yn rhoi nerth i mi, ac yn gwneud fy nhraed mor saff â'r carw

sy'n crwydro'r ucheldir garw (Habacuc, pennod 3, adnod 19 beibl.net).

O ystyried beth roedd y proffwyd yn ymwybodol o'r hyn roedd yn ei wynebu, mae ei obaith llwyr yn syfrdanol. "Pan mae'r goeden ffigys heb flodeuo...nac ychen yn y beudy, eto, mae'r Arglwydd yn ei deml sanctaidd. Er fod pethau'n mynd i waethygu cyn gwella, dylai'r daear gyfan fod yn llonydd ger ei fron. Bydd y cyfiawn yn byw drwy ffydd. Bydd Gair Duw yn gywir. Byddaf yn dodo o hyd i'm nerth a ngobaith yn yr Arglwydd fy Nuw, a bydd e'n mynd â fi i uchelderau newydd."

Ymaflodd Habacuc â chwestiynau, cofleidio realiti, trystio'r felly mae hi, a chanfod ei obaith yn Nuw. Os na fyddi di'n dysgu fawr ddim o'r cynllun hwn, dw i'n gobeithio y byddi'n cofio ystyr enw Habacuc,: I ymaflyd ac i gofleidio.

Y ddau run pryd.

Dw i'n cofio pan oedd fy merch ieuengaf, Joy, ond yn ryw bedair mlwydd oed ac yn chwarae ar linell sip yn iard gefn ei ffrind. Am ei bod hi'n rhy fach i gadw ei hun rhag taro'r goeden ar ddiwedd y linell, tarodd ei wyneb yn galed yn erbyn boncyff y goeden. Dw i'n dal i gofio clywed y glec! Disgynnodd i'r ddaear yn waed drosti a diymadferth.

Yn fy mraw ddois i o hyd i guriad calon, er nad oedd mor gryf ag yr hoffwn. Rhuthrwyd i'r Adran Brys a dechreuodd y doctoriaid gynnal profion. Pan ddaeth at ei hun, rhoddwyd tro ar bwytho'r briw ar waelod ei gen ond doedd Joy ddim am adael iddyn nhw wneud.

Roedd rhaid i mi ei dal.

Ro'n i'n gorwedd arni, gan ddal ei chorff a'i phen yn llonydd tra roedd y doctor yn pwytho a thrin ei chlwyfau. Roedd hi'n beichio crio, "Dadi, be' sy'n mynd 'mlaen? Plîs, gollwng. Gwna iddyn nhw stopio. Plîs, dw i jyst eisiau chwarae. Paid gadael iddyn nhw fy mrifo fi." Ond ro'n i'n gwybod, os oedd hi am wella'n iawn. roedd rhaid iddi fynd drwy hyn.

Weithiau, mae Duw'n dal gafael fel hyn, gan wybod beth fydd hi'n ei gymryd i ni wella'n iawn.

Dŷn ni'n ymaflyd a chofleidio - ar yr un tro.

Eto, yn ei freichiau e mae yna obaith.

Gweddïa:O Dduw, diolch i ti am fy nal. Diolch am fy ngwella. Diolch am obaith.

Diwrnod 9Diwrnod 11

Am y Cynllun hwn

Hope In The Dark

Mae'r cynllun Beibl hwn ar gyfer unrhyw un sydd mewn poen ac ddim yn deall pam. Os wyt ti wedi colli rywbeth, rywun, neu mae dy ffydd wedi'i brofi i'r eithaf, yna, mae'r Cynllun Beibl hwn o lyfr gweinidog Life Church, Craig Groeschel, Hope in the Dark, o bosib, yn union beth sydd angen arnat ti. Os wyt ti eisiau credu, ond ddim yn siŵr sut, mae hwn ar dy gyfer di.

More

Hoffem ddiolch i'r Parch Craig Groeschel a Life.Church.tv am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://craiggroeschel.com/