Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gobaith yn y TywyllwchSampl

Hope In The Dark

DYDD 3 O 12

Sgwenna

Os dŷn ni'n haeddu i'n ffydd gael ei gryfhau ddylen ni ddim cilio o gyfleoedd ble all ein ffydd falle gael ei brofi, ac felly, drwy'r profi hwnnw ein nerthu.

-George Muller

Sut wyt ti'n ymateb pan mae bywyd yn chwalu o'th gwmpas? beth yw dy ymatebion arferol, y pethau rwyt ti'n gafael ynddynt am gysur, cymorth, neu ryddhad?

Dim ond gwneud pethau'n waeth wnaiff ceisio anwybyddu sefyllfa. Dŷn ni'n fwy rhwystredig, achos does dim yn newid. Falle ein bod yn teimlo'n euog am nad ydyn ni'n ddigon cryf i ddelio efo pa bynnag ddraenen sydd wedi mynd dan ein croen. Yn y pen draw dŷn ni'n rhedeg i ffwrdd, hyd yn oed ymhellach, oddi wrth yr unig un y gall wirioneddol ein helpu.

Nes ein bod yn fodlon cael sgwrs gonest gyda Duw, chawn ni fyth adnabod heddwch. Ond sut\/

Mae Habacuc yn helpu i'n harwain drwy'r dyffryn gyda thri gweithred benodol. I ddechrau fe wnaeth Habacuc gwestiynu, mae'n debyg, anghyfiawnder Duw. Wedyn, penderfynodd stopio a gwrando ar Dduw. Dwedodd Duw wrth Habacuc, "“Ysgrifenna'r neges yma yn glir ar lechi, i'r negeswr sy'n rhedeg allu ei ddarllen yn hawdd" (Habacuc, pennod, adnod beibl.net).

Pam fyddai Duw am iddo wneud hynny? Mewn gwirionedd yr hyn ddwedodd Duw wrth Habacuc oedd, "Sgwenna fo i lawr, fel, pam fyddai'n profi fy hun yn gyfiawn a gwir, bydd pawb yn cofio fy mod yn Dduw sy'n cadw at ei air."

Pan fydd Duw'n dweud rywbeth wrthot ti. gwna gofnod ohono e, oherwydd mae dy elyn ysbrydol yn arbenigwr ar ddwyn hadau'r gwirionedd mae Duw eisiau eu plannu.

Falle dy fod yn meddwl, "Tyrd yn dy flaen Craig! Dw i'n deall beth ti'n ddweud ond dw i fawr o sgwennwr. Mae e'n syniad da, ond wyt ti o ddifri'n disgwyl i mi afael yn fy ffôn neu dabled - neu'n wirionach byth, nôl papur a phensel - a sgwennu lawr beth dw i'n meddwl mae Duw'n ddweud wrtho i.?"

Mae e gen ti.

Mae'r union weithred o roi geiriau ar bapur neu sgrîn yn creu tystiolaeth, yn selio atgof, ac yn dy ddal di'n atebol. Cofnoda ei neges i ti.

Gweithreda: Penderfyna ar gynllun ar sut i gofnodi dy sgyrsiau gyda Duw. Yna, dechreua heddiw.

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Hope In The Dark

Mae'r cynllun Beibl hwn ar gyfer unrhyw un sydd mewn poen ac ddim yn deall pam. Os wyt ti wedi colli rywbeth, rywun, neu mae dy ffydd wedi'i brofi i'r eithaf, yna, mae'r Cynllun Beibl hwn o lyfr gweinidog Life Church, Craig Groeschel, Hope in the Dark, o bosib, yn union beth sydd angen arnat ti. Os wyt ti eisiau credu, ond ddim yn siŵr sut, mae hwn ar dy gyfer di.

More

Hoffem ddiolch i'r Parch Craig Groeschel a Life.Church.tv am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://craiggroeschel.com/