Rhoi iddo e dy BryderSampl
Trystio yn Nuw
Mae rhai’n brolio yn eu cerbydau rhyfel a’u meirch, ond dŷn ni’n brolio’r ARGLWYDD ein Duw.-Salm 20:7
Roeddwn angen dwy feddyginiaeth ar frys. Roedd un ar gyfer alergeddau fy mam a'r llall ar gyfer ecsema fy nith. Roedd eu hnesmwythdod yn gwaethygu, ond bellach doedd y meddyginiaethau ddim ar gael mewn fferyllfeydd. Yn anobeithiol ac yn ddiymadferth, gweddïais dro ar ôl tro, Arglwydd, helpa nhw.
Wythnosau yn ddiweddarach, daeth eu sefyllfaoedd dan reolaeth. Roedd yn ymddangos bod Duw yn dweud: “Mae yna adegau pan fyddaf yn defnyddio meddyginiaethau i wella. Ond nid meddyginiaethau sydd â'r gair olaf: fi sy’n gwneud. Paid trystio ynddyn nhw, ond ynof fi.”
Yn Salm 20, cymerodd y Brenin Dafydd gysur am ei fod yn gallu trystio Duw. Roedd gan yr Israeliaid fyddin rymus, ond roedden nhw'n gwybod bod eu cryfder mwyaf yn dod o “enw yr Arglwydd” (adn. 7). Wnaethon nhw drystio yn enw Duw - yn pwy yw e, ei gymeriad digyfnewid, ac addewidion dibynadwy. Wnaethon nhw ddal at y gwirionedd y byddai’r hwn sy’n benarglwyddiaethol a nerthol dros bob sefyllfa yn gwrando eu gweddiau ac yn eu gwaredu rhag eu gelynion (adn. 6).
Er y gall Duw ddefnyddio adnoddau’r byd hwn i’n helpu, yn y pen draw, oddi wrtho e y daw fuddugoliaeth dros ein problemau. P'un a yw'n rhoi addewid i ni neu'r gras i'w ddioddef, gallwn drstioy y bydd e i ni y cwbwl y mae'n dweud ei fod. Does dim rhaid inni gael ein llethu gan ein trafferthion, ond gallwn eu hwynebu â’i obaith a’i dangnefedd.
Karen Huang
O Dad nefol, rho i mi'r dewrder i drystio ynot ti. Helpa fi i gredu mai ti yw’r cyfan yr wyt ti’n addo bod.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
P'un ai os wyt ti'n canmol Duw am ei ras neu'n brwydro â'th ffydd, bydd Duw bob amser yn dy gyfarfod â'i gariad digyfnewid, ei wirionedd a'i gryfder. Cama i mewn i gymuned o ferched sy'n ymroddedig i dyfu'n agosach at Dduw ac at ei gilydd trwy drystio ei fod e, ac y bydd e bob amser yn ddigon.
More