Rhoi iddo e dy BryderSampl
Dan Adenydd Duw
Gad i mi aros yn dy babell am byth, yn saff dan gysgod dy adenydd. Salm 61:4
Mae yna nifer o deuluoedd gŵydd Canada gyda gwyddau bach yn y pwll ger ein fflatiau. Mae’r cywion gwyddau mor flewog a chiwt, mae’n anodd peidio â’u gwylio pan fydda i’n mynd am dro neu’n rhedeg o amgylch y pwll. Ond dw i wedi dysgu i osgoi cyswllt llygaid a pheidio mynd ar gyfyl y cywion - fel arall dw i'n mentro achos bydd y rhieni yn troi’n amddiffynnol, yn amau bygythiad, ac yn hisian a mynd ar fy ôl!
Mae’r ddelwedd o aderyn yn gwarchod ei chywion yn un y mae’r Ysgrythur yn ei defnyddio i ddisgrifio cariad gwarchodol, tyner Duw tuag at ei blant (Salm 91:4). Yn Salm 61, mae’n ymddangos bod Dafydd yn cael trafferth profi gofal Duw fel hyn unwaith eto. Yr oedd wedi profi Duw fel ei “gaer gref” (adn. 3), ond yn awr galwodd yn daer “o ben draw’r byd,” gan ymbil, “Pan dw i’n anobeithio, arwain fi at graig uchel, ddiogel” (adn 2). Roedd yn dyheu unwaith eto am “aros yn dy babell am byth, yn saff dan gysgod dy adenydd]” (adn. 4).
Ac wrth ddod â’i boen a’i hiraeth am iachâd i Dduw, cafodd Dafydd gysur o wybod ei fod wedi ei glywed (adn. 5). Oherwydd ffyddlondeb Duw, roedd yn gwybod y byddai “yn canu mawl i dy enw am byth,” (adn. 8).
Fel y salmydd, pan fyddwn ni’n teimlo’n bell oddi wrth gariad Duw, gallwn redeg yn ôl at ei freichiau i fod yn sicr ei fod hyd yn oed yn ein poen, ei fod gyda ni, yn ein hamddiffyn ac yn gofalu amdanom mor angerddol ag y mae mam aderyn yn gwarchod ei chywion.
Monica La Rose
Dduw, diolch i Ti am dy gariad angerddol, amddiffynnol tuag ataf. Helpa fi i orffwys yn ddiogel yn dy ofal tyner.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
P'un ai os wyt ti'n canmol Duw am ei ras neu'n brwydro â'th ffydd, bydd Duw bob amser yn dy gyfarfod â'i gariad digyfnewid, ei wirionedd a'i gryfder. Cama i mewn i gymuned o ferched sy'n ymroddedig i dyfu'n agosach at Dduw ac at ei gilydd trwy drystio ei fod e, ac y bydd e bob amser yn ddigon.
More