Rhoi iddo e dy BryderSampl
Adar yr Awyr
Paid poeni am dy fywyd. -Mathew 6:25
es i sibrwdRoedd haul yr haf yn codi a fy nghymydog yn gwenu, wrth fy ngweld yn fy iard flaen, yn sibrwd i mi ddod i edrych. “Beth?” wnes i sibrwd yn ôl, yn chwilfrydig. Pwyntiodd at glychau gwynt ar ei chyntedd blaen, lle roedd cwpan te bach o wellt yn gorwedd ar ben gris metel. “Nyth aderyn bach y si,” sibrydodd. “Wyt ti’n gweld y rhai bach?” Prin oedd odd gweld y ddau big, bach iawn, wrth iddyn nhw bwyntio i fyny. “Maen nhw'n aros am y fam.” Wnaethon ni sefyll yno, gan ryfeddu. Wnes i godi fy ffôn symudol i dynnu llun. “Ddim yn rhy agos,” meddai fy nghymydog. “Ddim eisiau dychryn y fam.” A chyda hynny, fe wnaethom fabwysiadu - o bell - deulu o adar bach y si.
Ond nid yn hir. Mewn wythnos arall, roedd y fam, a'r babanod wedi diflannu - mor dawel ag yr oedden nhw wedi cyrraedd. Ond pwy fyddai'n gofalu amdanyn nhw?
Mae’r Beibl yn rhoi ateb gogoneddus ond cyfarwydd. Mae mor gyfarwydd fel y gallwn anghofio popeth mae’n ei addo: “Peidiwch â phoeni am eich bywyd,” meddai Iesu (Mathew 6:25). Cyfarwyddyd syml ond hardd. Mae’n ychwanegu “Meddyliwch am adar, Dŷn nhw ddim yn hau nac yn medi nac yn storio mewn ysguboriau – ac eto mae eich Tad nefol yn eu bwydo nhw” (adn. 26).
Yn union fel y mae Duw yn gofalu am adar mân, mae'n gofalu amdanon ni - yn ein meithrin ni mewn meddwl, corff, enaid ac ysbryd. Mae'n addewid godidog. Boed inni edrych ato bob dydd - heb ofid - a chodi.
Patricia Raybon
O Dduw cariadus, mae’n ostyngedig gwybod dy fod ti’n gofalu am anghenion fy mywyd. Helpa fi i anrhydeddu dy addewid i ddarparu trwy drystio ynot ti fwy bob dydd.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
P'un ai os wyt ti'n canmol Duw am ei ras neu'n brwydro â'th ffydd, bydd Duw bob amser yn dy gyfarfod â'i gariad digyfnewid, ei wirionedd a'i gryfder. Cama i mewn i gymuned o ferched sy'n ymroddedig i dyfu'n agosach at Dduw ac at ei gilydd trwy drystio ei fod e, ac y bydd e bob amser yn ddigon.
More