Rhoi iddo e dy BryderSampl
Caredigrwydd Bach
”felly dangoswch chithau dosturi at bobl eraill, a bod yn garedig, yn ostyngedig, yn addfwyn ac yn amyneddgar.” -Colosiaid 3:12
Mae Amanda yn gweithio fel nyrs gymunedol ac yn rhannu ei hamser ymhlith sawl cartref nyrsio - yn aml yn dod â'i merch Ruby, un ar ddeg oed, i'r gwaith. Am rywbeth i'w wneud, dechreuodd Ruby ofyn i drigolion, “Pe gallech chi gael unrhyw dri pheth, beth fyddech chi ei eisiau?” a chofnodi eu hatebion yn ei llyfr nodiadau. Yn syndod, roedd llawer o'u dymuniadau am bethau bach - selsig Fienna, pastai siocled, caws, afocados. Felly sefydlodd Ruby GoFundMe i'w helpu i ddarparu ar gyfer eu dymuniadau syml. A phan fydd hi'n dosbarthu'r nwyddau, mae hi'n rhoi cwtsh i bawb. Mae hi'n dweud, “Mae'n codi dy galon di. Mae wir yn gwneud hynny.”
Pan dŷn ni’n dangos tosturi a charedigrwydd fel Ruby, dŷn ni’n adlewyrchu ein Duw sy’n “ garedig a thrugarog; mor amyneddgar ac anhygoel o hael!” (Salm 145:8). Dyna pam yr anogodd yr apostol Paul ni, fel pobl Dduw, i ddangos “tosturi at bobl eraill, a bod yn garedig, yn ostyngedig, yn addfwyn ac yn amyneddgar.” (Colosiaid 3:12). Gan fod Duw wedi dangos tosturi mawr tuag atom, dŷn ni’n naturiol yn hiraethu am rannu ei dosturi ag eraill. Ac wrth i ni wneud hynny’n fwriadol, dŷn ni’n “gwisgo” ein hunain ynddo.
Mae Paul yn mynd ymlaen i ddweud wrthym: “gwisgwch gariad dros y cwbl i gyd – mae cariad yn clymu’r cwbl yn berffaith gyda’i gilydd.” (adn. 14). Ac mae’n ein hatgoffa ein bod ni i “wneud bopeth gan gofio eich bod yn cynrychioli yr Arglwydd Iesu Grist” (adn. 17), a chofio bod pob peth da yn dod oddi wrth Dduw. Pan fyddwn ni'n garedig ag eraill, mae ein hysbryd yn codi.
Alyson Kieda
Iesu, diolch i ti am ddangos caredigrwydd diderfyn, gorlawn inni. Helpa ni i gael llawenydd wrth wneud gweithredoedd caredig dros eraill.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
P'un ai os wyt ti'n canmol Duw am ei ras neu'n brwydro â'th ffydd, bydd Duw bob amser yn dy gyfarfod â'i gariad digyfnewid, ei wirionedd a'i gryfder. Cama i mewn i gymuned o ferched sy'n ymroddedig i dyfu'n agosach at Dduw ac at ei gilydd trwy drystio ei fod e, ac y bydd e bob amser yn ddigon.
More