Rhoi iddo e dy BryderSampl
Wedi'i Alw a'i Gymhwyso gan Dduw
Dw i wedi’i lenwi ag Ysbryd Duw, i roi dawn, deall a gallu iddo, a’i wneud yn feistr ym mhob crefft.-Exodus 31:3
“Dy gyfrifoldeb di ar gyfer y ffair llyfrau rhyngwladol,” dwedodd fy rheolwr wrthyf, “yw trefnu darllediad radio ar y safle.” Roeddwn i'n teimlo ofn oherwydd roedd hon yn diriogaeth newydd i mi. Dduw, dydw i erioed wedi gwneud unrhyw beth fel hyn, gweddïais. Helpa fi os gweli di’n dda.
Fe wnaeth Duw ddarparu adnoddau a phobl i’m harwain: technegwyr a darlledwyr profiadol, ynghyd â nodiadau atgoffa yn ystod y datgeliad o fanylion yr oeddwn wedi’u hanwybyddu. Wrth edrych yn ôl, gwn fod y darllediad wedi mynd yn dda oherwydd roedd yn gwybod beth oedd ei angen ac wedi fy ysgogi i ddefnyddio'r sgiliau yr oedd eisoes wedi'u rhoi i mi.
Pan mae Duw yn ein galw ni at dasg, mae hefyd yn ein harfogi ar ei chyfer. Pan neilltuodd Betsalel i weithio ar y Tabernacl, roedd Betsalel eisoes yn grefftwr medrus. Gwnaeth Duw ei arfogi ymhellach trwy ei lenwi ag Ysbryd Duw, i roi dawn, deall a gallu iddo, a’i wneud yn feistr ym mhob crefft (Exodus 31: 3). Rhoddodd Duw hefyd gynorthwywr iddo o’r enw Oholiab, yn ogystal â gweithlu medrus (adn. 6). Gyda gallu Duw, fe wnaeth y tîm gynllunio’r babell, ei dodrefn, a gwisgoedd yr offeiriaid. Bu’r rhain yn allweddol yn addoliad priodol yr Israeliaid o Dduw (adn. 7–11).
Mae Betsalel yn golygu “yng nghysgod [amddiffyniad] Duw.” Gweithiodd y crefftwr ar brosiect oes o dan warchodaeth, pŵer a darpariaeth Duw. Gad i ni ufuddhau'n ddewr i'w anogaeth wrth inni gyflawni tasg hyd at ei chwblhau. Mae e'n gwybod beth sydd ei angen arnom, a sut a phryd i'w roi.
Karen Huang
O Dad, diolch i ti am roi popeth sydd ei angen arnaf.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
P'un ai os wyt ti'n canmol Duw am ei ras neu'n brwydro â'th ffydd, bydd Duw bob amser yn dy gyfarfod â'i gariad digyfnewid, ei wirionedd a'i gryfder. Cama i mewn i gymuned o ferched sy'n ymroddedig i dyfu'n agosach at Dduw ac at ei gilydd trwy drystio ei fod e, ac y bydd e bob amser yn ddigon.
More