Rhoi iddo e dy BryderSampl
O Bryder i Heddwch
Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen. -Philipiaid 4:6
Mae symud tŷ yn un o'r ffactorau straen mwyaf mewn bywyd. Symudon ni i’n cartref presennol ar ôl i mi fyw yn fy un blaenorol ers bron i ugain mlynedd. Roeddwn i wedi byw ar fy mhen fy hun yn y cartref cyntaf hwnnw ers wyth mlynedd cyn i mi briodi. Yna symudodd fy ngŵr i mewn, ynghyd â'i holl bethau. Yn ddiweddarach, gaethon ni blentyn, ac roedd hynny'n golygu hyd yn oed mwy o bethau.
Doedd ein diwrnod symud i’r tŷ newydd ddim heb ddigwyddiad. Bum munud cyn i'r symudwyr gyrraedd, roeddwn yn dal i orffen llawysgrif. Ac, roedd gan y cartref newydd sawl set o risiau, felly cymerodd ddwywaith yr amser a dwywaith cymaint o symudwyr ag y bwriadwyd.
Ond doeddwn i ddim yn teimlo dan straen gan ddigwyddiadau'r diwrnod hwnnw. Yna fe wnaeth fy nharo: roeddwn i wedi treulio oriau lawer yn gorffen ysgrifennu llyfr - un yn llawn o'r Ysgrythur a chysyniadau beiblaidd. Trwy ras Duw, roeddwn i wedi bod yn pori dros y Beibl, yn gweddïo, ac yn ysgrifennu i gwrdd â'm dyddiad cau. Felly, dw i'n credu mai'r allwedd oedd fy nhrochiad yn yr Ysgrythur ac mewn gweddi.
Ysgrifennodd Paul, “Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen…” (Philipiaid 4:6). Pan weddïwn - “Byddwch yn llawen” yn Nuw (adn. 4) - yr ydym yn ailffocysu ein meddwl oddi wrth y broblem at ein Darparwr. Efallai ein bod ni’n gofyn i Dduw ein helpu ni i ddelio â’r pryder, ond dŷn ni hefyd yn cysylltu ag e, sy’n gallu darparu heddwch “ sydd tu hwnt i bob dychymyg” (adn. 7).
Katara Patton
Darparwr ac Amddiffynnydd, dw i'n rhoi fy mhryderon i ti. Bydded i'th heddwch warchod fy meddwl a'm calon.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
P'un ai os wyt ti'n canmol Duw am ei ras neu'n brwydro â'th ffydd, bydd Duw bob amser yn dy gyfarfod â'i gariad digyfnewid, ei wirionedd a'i gryfder. Cama i mewn i gymuned o ferched sy'n ymroddedig i dyfu'n agosach at Dduw ac at ei gilydd trwy drystio ei fod e, ac y bydd e bob amser yn ddigon.
More