Rhoi iddo e dy BryderSampl
Duw ar y Groesffordd
“Dych chi’n sefyll ar groesffordd, felly holwch am yr hen lwybrau… Ewch ar hyd honno a cewch orffwys wedyn.” - Jeremeia 6:16
Ar ôl dyddiau o salwch ac yna ei dymheredd yn mynd yn uchel dros ben, roedd yn amlwg bod angen gofal brys ar fy ngŵr. Fe wnaeth yr ysbyty ei dderbyn ar unwaith. Roedd un diwrnod yn toddii i'r nesaf. Gwellodd, ond dim digon i gael ei ryddhau. Roeddwn yn wynebu'r dewis anodd i aros gyda fy ngŵr neu gyflawni taith bwysig gyda fy ngwaith, ble'r oedd llawer o bobl a phrosiectau yn cymryd rhan. Sicrhaodd fy ngŵr mi y byddai’n iawn. Ond yr oedd fy nghalon wedi ei rhwygo rhyngddo a'm gwaith.
Roedd angen help Duw ar ei bobl oedd ar groesffordd penderfyniadau bywyd. Yn llawer rhy aml, doeddwn nhw ddim wedi cadw at ei gyfarwyddiadau oedd wedi’u datgelu iddyn nhw. Felly erfyniodd Moses ar y bobl i “ddewis bywyd” trwy ddilyn gorchmynion Duw (Deuteronomium 30:19). Yn ddiweddarach, cynigiodd y proffwyd Jeremeia eiriau o gyfarwyddyd i bobl ystyfnig Duw, gan eu hannog i ddilyn ei ffyrdd: “Dych chi’n sefyll ar groesffordd, felly holwch am yr hen lwybrau – sef y ffordd sy’n arwain i fendith.” (Jeremeia 6:16). Gall llwybrau hynafol yr Ysgrythur a darpariaeth Duw yn y gorffennol ein cyfarwyddo.
Dychmygais fy hun ar groesffordd gorfforol a chymhwyso templed doethineb Jeremeia. Roedd fy ngŵr angen fi. Ac felly hefyd fy ngwaith. Yn union wedyn, galwodd fy ngoruchwyliwr a'm hannog i aros gartref. Wnes i gymryd anadl o ryddhad a diolch i Dduw am ei ddarpariaeth ar y groesffordd. Nid yw cyfeiriad Duw bob amser yn dod mor glir, ond mae'n dod. Pan safwn ar y groesffordd, gadewch i ni sicrhau ein bod yn chwilio amdano.
Elisa Morgan
Annwyl Dduw, pan fyddaf yn ansicr, helpa fi i sefyll ar y groesffordd a chwilio am dy ddarpariaeth.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
P'un ai os wyt ti'n canmol Duw am ei ras neu'n brwydro â'th ffydd, bydd Duw bob amser yn dy gyfarfod â'i gariad digyfnewid, ei wirionedd a'i gryfder. Cama i mewn i gymuned o ferched sy'n ymroddedig i dyfu'n agosach at Dduw ac at ei gilydd trwy drystio ei fod e, ac y bydd e bob amser yn ddigon.
More