Rhoi iddo e dy BryderSampl
Ymrwymiad Mwyaf Cysurus Duw
Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw, yn mynd i fod gyda ti bob cam o’r ffordd!”-Josua 1:9
Flynyddoedd yn ôl, wnaeth ein teulu ymweld â Four Corners, yr unig le yn yr Unol Daleithiau lle mae pedair talaith yn cyfarfod mewn un lleoliad. Roedd fy ngŵr yn sefyll yn yr adran a farciwyd Arizona. Neidiodd ein mab hynaf, A.J., i Utah. Daliodd ein mab ieuengaf, Xavier, fy llaw wrth i ni gamu i Colorado. Pan wnes i sgrialu i mewn i New Mexico, dwedodd Xavier, “Mam, alla i ddim credu bod chi wedi ngadael i’n Colorado!” Roeddem gyda'n gilydd ac ar wahân gan fod ein chwerthin i'w glywed mewn pedair talaith wahanol. Nawr bod ein meibion hŷn wedi gadael cartref, mae gen i werthfawrogiad dyfnach o addewid Duw i fod yn agos at ei holl bobl ble bynnag maen nhw'n mynd.
Ar ôl i Moses farw, galwodd Duw Josua i arweinyddiaeth a gwarantu ei bresenoldeb wrth iddo ehangu tiriogaeth yr Israeliaid (Josua 1:1-4). Dwedodd Duw, “Bydda i gyda ti, fel roeddwn i gyda Moses. Fydd neb yn gallu dy stopio di tra byddi di byw. Wna i ddim dy siomi di na dy adael di” (adn. 5). Gan wybod y byddai ei bobl yn stryglo gydag amheuaeth ac ofn, adeiladodd Duw sylfaen gobaith ar y geiriau hyn: “Bydda i gyda ti, fel roeddwn i gyda Moses. Fydd neb yn gallu dy stopio di tra byddi di byw. Wna i ddim dy siomi di na dy adael di.” (adn. 9).
Waeth ble mae Duw yn ein harwain ni neu ein hanwyliaid, hyd yn oed trwy amseroedd anodd, mae ei ymrwymiad mwyaf cysurus yn ein sicrhau ei fod e bob amser yn bresennol.
Xochitil Dixon
Duw bythol, diolch i ti am fy nghysuro ag addewid dy bresenoldeb cyson.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
P'un ai os wyt ti'n canmol Duw am ei ras neu'n brwydro â'th ffydd, bydd Duw bob amser yn dy gyfarfod â'i gariad digyfnewid, ei wirionedd a'i gryfder. Cama i mewn i gymuned o ferched sy'n ymroddedig i dyfu'n agosach at Dduw ac at ei gilydd trwy drystio ei fod e, ac y bydd e bob amser yn ddigon.
More