Rhoi'r Cyfan i Ffwrdd…A'i Gael i Gyd yn ȏl EtoSampl

Trosglwyddo’r Etifeddiaeth
Ein gwaith fel stiwardiaid doeth yw trosglwyddo cyfoeth – pob ffurf arno – i genedlaethau’r dyfodol. Trosglwyddo cyfoeth ariannol yw'r math hawsaf o gyfalaf i'w drosglwyddo, ond yn y rhan fwyaf o achosion dyma'r math olaf o gyfalaf i'w drosglwyddo oherwydd ei berygl cynhenid.
Dw i’n gwybod na fydd llawer sy’n darllen hwn yn ystyried eu hunain yn gyfoethog yn ariannol, sy’n iawn. Dŷ ni i gyd yn stiwardiaid y stori mae Duw wedi ei rhoi i ni. Mae'n stori dda. Mae yna elfennau o boen a llawenydd mawr. Ond ein stori ni ydyw. Mae'n stori o brynedigaeth a gobaith.
Gadewch i mi siarad fel tad, hyd yn oed taid, â'r rhai sy'n darllen. Ein galwad yn yr oes sydd ohoni yw cadw a throsglwyddo ein stori – ein hetifeddiaeth – i’r rhai sy’n dod ar ein hôl. Ein plant. Ein hwyrion. Ein gor-wyrion. Hyd yn oed y plant hynny na fyddwn byth yn eu hadnabod nac yn eu gweld.
Dw i'n meddwl bod Duw wedi bwriadu erioed y byddai un genhedlaeth yn dweud wrth y nesaf, a hwythau yn eu tro yn dweud wrth y nesaf. Mae i fod yn stori barhaus. Dyma ein galwad eglurhaol: os adferwn y syniad hwn - os rhoddwn ein bywydau i’r syniad o drosglwyddo cyfoeth i genedlaethau’r dyfodol - yna fe gawn y cyfan yn ôl eto ar ffurf cenedlaethau’r dyfodol a fydd yn dal i ddilyn Crist gydag angerdd.
Efallai mai yn y fath amser â hwn y mae Duw yn galw ar ddynion, merched, a phlant i fyw hyn - i fyw am syniadau mwy na nhw eu hunain ac i fuddsoddi mewn pethau mwy na nhw eu hunain. Ac os gwnawn ni, fe ddaw newid a gobaith parhaol i'n byd.
Cais: Un peth yw cael dy ysbrydoli gan astudiaeth ddefosiynol, ond peth arall i'w ddilyn. Beth wyt ti’n gallu ei wneud i wneud etifeddiaeth yn flaenoriaeth yn dy fywyd?
Mae'r cynllun darllen hwn yn seiliedig ar y llyfr, Giving It All Away. . . a Getting It All Back Again, gan David Green, Prif Swyddog Gweithredol a sylfaenydd Hobby Lobby. Archeba’r llyfr cyflawn ar-lein. www.mardel.com/david_green
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Wedi’i gymryd o’r llyfr, Giving It All Away…a Getting It All Back Again, mae David Green, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Hobby Lobby, yn rhannu bod bywyd hael yn talu’r gwobrau gorau yn bersonol, yn cynnig etifeddiaeth bwerus i’th deulu, ac yn newid y rhai rwyt ti’n gyffwrdd.
More
Cynlluniau Tebyg

Rhoi iddo e dy Bryder

Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill

Ymarfer y Ffordd

Coda a Dos Ati

Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd

Dwyt ti Heb Orffen Eto

P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw

Hadau: Beth a Pham

Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist
