Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhoi'r Cyfan i Ffwrdd…A'i Gael i Gyd yn ȏl EtoSampl

Giving It All Away…And Getting It All Back Again

DYDD 5 O 9

Llawenydd Rhoi

Pan dŷn ni’n rhoi i Dduw, dŷn ni’n caniatáu i Dduw “agor llifddorau’r nefoedd” (Malachi 3.10). Mae rhai Cristnogion, mae gen i ofn, yn gweld y gwrthwyneb. Maen nhw'n meddwl y byddan nhw'n gorffen gyda llai gyda llai os ydyn nhw'n rhoi. Dw i'n ei weld o ran bendith yn y dyfodol. Dw i angen ac eisiau bendithion Duw ar fy nheulu. Fel yr wyf yn rhoi, mae'n ymddangos ei fod yn rhoi’n helaeth mwy a mwy o fendithion imi.

Dydw i ddim yn dweud y dylen ni weddïo y bydd Duw yn agor llifddorau'r nefoedd fel y gallwn ni gael arian yn ôl. Dydy’r ffordd honno o feddwl ddim yn cyd-fynd â ffordd Duw. Mae mwy i fendith Duw nag arian. Mae angen inni gael gwared ar y meddylfryd hwn sy'n canolbwyntio ar fynyddoedd o arian. Gall darpariaeth Duw ar gyfer ein bywydau ddod a’’r ffurf cymorth gan gorff Crist (pobl o’th eglwys) neu ar ffurf rhodd o ryw fath, cyfle am swydd. Rhoddai fy mam yn ufudd a llawen, ac fe wnaeth Duw ddarparu. Wnaeth hi ddim ennill cyfoeth fel y mae'r byd yn ei ddiffinio, ond cynyddodd ei thrysor yn y nefoedd wrth iddi drystio yn Nuw i ddarparu ar ei chyfer yn y presennol.

Gad imi bledio arnat ti. Derbynia air Duw. Profa ef. Dw i’n argyhoeddedig, os cymeri gam a pharhau i symud ymlaen ar yr antur o roi, chei di mo dy siomi. Dw i’n dy annog ac yn dy herio i gymryd y cam nesaf. Efallai ei fod yn gam cyntaf. Efallai ei fod yn gam mwy beiddgar.

Cais: Sut y gallai etifeddiaeth o lawenydd a haelioni gael mwy o effaith na gadael o’th ȏl fusnes ffyniannus neu lwyth o arian parod?

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Giving It All Away…And Getting It All Back Again

Wedi’i gymryd o’r llyfr, Giving It All Away…a Getting It All Back Again, mae David Green, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Hobby Lobby, yn rhannu bod bywyd hael yn talu’r gwobrau gorau yn bersonol, yn cynnig etifeddiaeth bwerus i’th deulu, ac yn newid y rhai rwyt ti’n gyffwrdd.

More

Hoffem ddiolch i David Green a Zondervan am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.zondervan.com