Rhoi'r Cyfan i Ffwrdd…A'i Gael i Gyd yn ȏl EtoSampl

Etifeddiaeth Gwaith
Mae ewyllys Duw drosot ti a minnau, a’th blant a’m plant i, wedi’i nodi’n glir yn y Pregethwr 9.10: “Gwna dy orau glas, beth bynnag wyt ti’n ei wneud.”
Pa waith bynnag dŷn ni'n cael ein hunain yn ei wneud yn y bywyd hwn - does dim ots gen i os yw'n fflipio byrgyrs – dŷn ni'n cael ein galw i'w wneud yn dda ac i ogoniant Duw. Mae’r Beibl yn dweud wrthym fod dyrchafiad yn dod oddi wrth Dduw, nid oddi wrth benaethiaid dynol. Os nad wyt ti'n gwneud dy orau glas i fflipio byrgyrs wrth i ti aros am rywbeth gwell, rwy'n amau y byddi di byth yn dod o hyd i'th freuddwydion.
Feiddiwn ni ddim twyllo ein plant allan o brofiad gwaith. Rhaid inni ddisgwyl eu bod yn rhoi eu hegni llawn iddo. Allwn ni ddim gadael i'n cronfeydd personol neu gorfforaethol danseilio'r wers hollbwysig hon. Beth allai Duw fod eisiau ei wneud trwy fywyd a thalentau dy blentyn neu dy wyres? Mae'n debyg na fyddi di'n gwybod os byddi’n tarfu ar eu profiad o weithio.
Ydw, rwy’n gwybod y teimlad o euogrwydd sy’n dod drosom pan fyddwn yn gwylio ein plant yn cael trafferthion ariannol. Mae'n anodd peidio â neidio i mewn a lleddfu'r boen. Fodd bynnag, os gwnawn hynny, byddwn yn atal eu datblygiad.
Mae'r cyfoeth dŷn ni'n ei greu fel coelcerth. Os caiff ei reoli, gall gynhesu ein teuluoedd. Os caniateir iddo ymledu'n wyllt, gall ddinistrio. Dyma beth sy'n digwydd yn rhy aml o lawer o fewn teuluoedd cyfoethog ledled y byd y dyddiau hyn.
Roddodd Duw ddim byd i unrhyw un ohonom ar y ddaear hon i eistedd ar gwch hwylio yn unig. Rhoddodd ni yma i ofalu am yr ardd a roddodd i ni. Os ydym am gyfrannu etifeddiaeth o haelioni, yna ddylen ni byth anghofio gwerth gwaith a'i effaith ar ein bywydau.
Cais: Ystyria bŵer gwaith yn dy fywyd ac yn y diwylliant ehangach. Beth mae gwaith yn ei gynhyrchu mewn person? Sut mae'n siapio person?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Wedi’i gymryd o’r llyfr, Giving It All Away…a Getting It All Back Again, mae David Green, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Hobby Lobby, yn rhannu bod bywyd hael yn talu’r gwobrau gorau yn bersonol, yn cynnig etifeddiaeth bwerus i’th deulu, ac yn newid y rhai rwyt ti’n gyffwrdd.
More
Cynlluniau Tebyg

Rhoi iddo e dy Bryder

Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill

Ymarfer y Ffordd

Coda a Dos Ati

Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd

Dwyt ti Heb Orffen Eto

P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw

Hadau: Beth a Pham

Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist
