Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhoi'r Cyfan i Ffwrdd…A'i Gael i Gyd yn ȏl EtoSampl

Giving It All Away…And Getting It All Back Again

DYDD 3 O 9

Yr Etifeddiaeth Anweledig

Nid arian yn unig yw’r cymynroddion y mae ein cenhedlaeth ni’n gobeithio eu trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf. Mae arian yn bwysig, a dylem fod yn ddiolchgar bod gennym ddigon i'w roi i'n plant. Ac eto y mae y rhan helaethaf o'n cymynroddion wedi eu gwneud o bethau anweledig. Dyma'r straeon teuluol y mae'n rhaid i ni eu hadrodd. Dyma'r gwerthoedd y mae'n rhaid i'r straeon hynny eu haddysgu. Dyma'r breuddwydion a'r llafur ac amseroedd darpariaeth Duw sydd wedi gwneud rhywbeth o werth, nid yn unig cyfoeth materol ond y gwerthoedd sy'n fwy nag arian.

Mae rhinweddau anweledig, nid arian, yn gwneud bywyd yn werth ei fyw. Oherwydd y rhinweddau hyn, gallwn adeiladu etifeddiaeth sy'n werth ei throsglwyddo. Mae'r nodweddion a drosglwyddwyd i mi gan fy nheulu yn amhrisiadwy. Fe wnaethon nhw fy mowldio i mewn i'r dyn ydw i heddiw. Nid yw nodweddion fel dyfalbarhad, teyrngarwch, a gras ond ychydig o enghreifftiau o'r etifeddiaeth anweledig hon.

Gall cyfoeth fod yn gelc o arian, ond mae cyfoeth hefyd ar ffurf adnoddau, syniadau, gwybodaeth, doethineb, ac ati. Pan fyddi di a minnau'n dysgu nodi etifeddiaeth a chyfoeth fel mwy nag arian, mae ein byd yn agor. Dŷn ni'n gweld bod gennym ni gymaint i'w stiwardio, i ofalu amdano.

Os byddwn ni'n trosglwyddo arian i'r genhedlaeth nesaf yn unig, dŷn ni'n gosod llwyth mawr arnyn nhw. Etifeddiaeth o fwy o werth yw ein ffordd o fyw yn ei gyfanrwydd, yr hyn a gredwn, a chynnwys y breuddwydion sy'n ein cario i lwyddiant. Dyma sydd ei angen ar y genhedlaeth nesaf yn bennaf gennym ni, a'r hyn y mae'n rhaid i'r genhedlaeth nesaf baratoi i'w drosglwyddo hefyd.

Cais: Sut gall un genhedlaeth gyfleu ei syniadau a'i gwerthoedd yn ymarferol i genedlaethau dilynol?

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Giving It All Away…And Getting It All Back Again

Wedi’i gymryd o’r llyfr, Giving It All Away…a Getting It All Back Again, mae David Green, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Hobby Lobby, yn rhannu bod bywyd hael yn talu’r gwobrau gorau yn bersonol, yn cynnig etifeddiaeth bwerus i’th deulu, ac yn newid y rhai rwyt ti’n gyffwrdd.

More

Hoffem ddiolch i David Green a Zondervan am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.zondervan.com