Rhoi'r Cyfan i Ffwrdd…A'i Gael i Gyd yn ȏl EtoSampl
Dim ond Un Bywyd
Dw i’n caru cerdd y cricedwr a’r cenhadwr Prydeinig C. T. Studd, “Only One Life.” Y llinellau sydd wir yn fy nghael i yw, “Dim ond un bywyd a fydd cyn bo hir wedi darfod, dim ond yr hyn a wneir dros Grist fydd yn para.”
Dw i'n credu bod Duw wedi ein gosod ni ar y ddaear hon i weithio, i ennill, ac i ofalu am y rhai y mae wedi'u hymddiried i ni. Ac eto credaf hefyd ein bod yn cael ein rhoi ar y ddaear hon i roi, i ymroi ein hunain i frand radical o haelioni sy'n newid bywydau ac yn gadael etifeddiaeth. I aralleirio geiriau Duw i’r patriarch Abraham, dŷn ni wedi’n bendithio fel y gallwn ni fod yn fendith.
Ond beth ydyn ni'n ei olygu wrth sôn am gael ein bendithio? Yn ein diwylliant, gellid dehongli hyn fel bendith ariannol. Ac yn sicr, gall cyllid fod yn rhan ohono. Credaf, fodd bynnag, fod y fendith y mae Duw yn sôn amdani yn cwmpasu cymaint mwy:
- Teulu
- Ffrindiau
- Doniau
- Rhyddid Addysg
Gallwn i fynd ymlaen ac ymlaen.
Pan fyddaf yn ystyried yr holl fendith a roddwyd i mi, mae'n anodd imi beidio ag oedi a diolch i'm Harglwydd a'm Duw. Mae ei galon yn hael. Mae ei fendithion yn eang ac yn gyfoethog.
Cais: Rhestra rai o'r ffyrdd niferus rwyt ti wedi cael y fendithio. Sut allet ti ddefnyddio'r bendithion hyn at ddibenion tragwyddol?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Wedi’i gymryd o’r llyfr, Giving It All Away…a Getting It All Back Again, mae David Green, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Hobby Lobby, yn rhannu bod bywyd hael yn talu’r gwobrau gorau yn bersonol, yn cynnig etifeddiaeth bwerus i’th deulu, ac yn newid y rhai rwyt ti’n gyffwrdd.
More