Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhoi'r Cyfan i Ffwrdd…A'i Gael i Gyd yn ȏl EtoSampl

Giving It All Away…And Getting It All Back Again

DYDD 7 O 9

Y Grefft o basio’r fantell ymlaen i’r Genhedlaeth nesaf

Mae'r gair “economi” yn cael ei drosglwyddo o gwmpas yn y cyfryngau gymaint tybed a ydyn ni'n gwybod yn iawn beth mae'n ei olygu. Fe'i defnyddir yn bennaf i gyfeirio at ba mor dda y mae ein gwlad yn gwneud yn ariannol. Ond dim ond un ffordd o edrych arno yw hynny. I mi, ffordd fwy defnyddiol o ddeall cynildeb yw “rheoli adnoddau’n ofalus.” Mae'n awgrymu'r angen am stiward - y person sy'n rheoli adnoddau'n ofalus.

Yn llyfr Diarhebion yr Hen Destament, mae’r bennod olaf yn disgrifio’r hyn a adnabyddir fel gwraig Diarhebion 31. Os darlleni di’r bennod, wnei di sylwi fod y fenyw sy'n cael ei disgrifio yn economegydd o'r radd flaenaf.

Mae hi’n reolwraig gofalus ar ei holl adnoddau: deallusol, cymdeithasol, ariannol, ysbrydol, hyd yn oed esthetig. Mae ei gwaith diwyd yn gysylltiedig â'i brwdfrydedd ysbrydol dros Dduw. Mae hi'n anrhydeddu ac yn parchu Duw, ac mae ei bywyd yn mynegi hyn trwy stiwardiaeth wych. Gallwn ni i gyd ddysgu oddi wrth y fenyw ryfeddol hon sut i fynd ati’n ofalus i reoli popeth mae Duw wedi'i roi inni.

Cais: Wrth edrych ar esiampl gwraig Diarhebion 31, beth wyt ti’n ei wneud yn dda? Oes lle i wella?

Diwrnod 6Diwrnod 8

Am y Cynllun hwn

Giving It All Away…And Getting It All Back Again

Wedi’i gymryd o’r llyfr, Giving It All Away…a Getting It All Back Again, mae David Green, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Hobby Lobby, yn rhannu bod bywyd hael yn talu’r gwobrau gorau yn bersonol, yn cynnig etifeddiaeth bwerus i’th deulu, ac yn newid y rhai rwyt ti’n gyffwrdd.

More

Hoffem ddiolch i David Green a Zondervan am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.zondervan.com