Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhoi'r Cyfan i Ffwrdd…A'i Gael i Gyd yn ȏl EtoSampl

Giving It All Away…And Getting It All Back Again

DYDD 4 O 9

Teithio i Gyfeiriad Haelioni

Yn greiddiol i unrhyw fywyd ac etifeddiaeth ystyrlon mae’n rhaid bod gweledigaeth ar gyfer haelioni, dealltwriaeth o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn fendith i eraill. Rhaid yn gyntaf fodelu gwerth rhoi i eglwys, i genhadaeth, i bobl, ac yna ei ddysgu fel bod y genhedlaeth nesaf yn cofleidio haelioni fel eu galwad. Unwaith y bydd person yn cofleidio cysyniad, fel haelioni, fel ei rai ei hun, yna mae'n llawer haws deall y cyfrifoldeb sydd ynghlwm wrtho.

Yn fy nhaith fy hun, dw i wedi darganfod bod amseriad haelioni yn datgelu dy galon i Dduw. Gall y cam hwnnw o daro’r botwm “cyfrannu” ar-lein ymddangos yn frawychus. Ond mae'r cyfan yn dibynnu ar drystio. Ydw i wir yn ymddiried mai Duw yw'r un Duw wnaeth atal llaw Abraham rhag lladd ei fab a darparu hwrdd yn y drysni ar gyfer yr aberth? Os mai ydw yw fy ateb, yna mae canlyniadau i hynny. Rhai da, hefyd.

Mae’n golygu, o ganlyniad i ffyddlondeb amodol Duw, y gallaf ymhyfrydu wrth roi hyd yn oed mewn amseroedd caled. Yn aml, mae Duw eisiau i ni gymryd y cam cyntaf. Gall fod mor syml â gwneud cynllun i fynd allan o ddyled neu gynllun i gefnogi teulu cenhadol am ddegawd. Dyna'r cam cyntaf. Ar ôl i ni ymrwymo, dw i wedi darganfod bod Duw yn gyflym i ddatgelu ei hun yn yr ymdrech honno.

Nid oes ots a ydym yn rhoi allan o gyfoeth neu amgylchiadau gostyngedig. All Duw ddim aros i ni gamu i lawenydd haelioni. Mae angen i ni drystio ynddo a chymryd y cam cyntaf hwnnw.

Cais:A oedd yna amser pan oeddet ti'n gwybod bod Duw eisiau iti wneud rhywbeth caled a chyda ffydd eithafol? A wnaethost t ti fynd ati, neu gael dy hun yn difaru peidio â'i wneud?

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Giving It All Away…And Getting It All Back Again

Wedi’i gymryd o’r llyfr, Giving It All Away…a Getting It All Back Again, mae David Green, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Hobby Lobby, yn rhannu bod bywyd hael yn talu’r gwobrau gorau yn bersonol, yn cynnig etifeddiaeth bwerus i’th deulu, ac yn newid y rhai rwyt ti’n gyffwrdd.

More

Hoffem ddiolch i David Green a Zondervan am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.zondervan.com