Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhoi'r Cyfan i Ffwrdd…A'i Gael i Gyd yn ȏl EtoSampl

Giving It All Away…And Getting It All Back Again

DYDD 1 O 9

Etifeddiaeth Barhaus

Mae'r cwestiynau'n wahanol ar wahanol gyfnodau bywyd. Yn ein ugeiniau, tueddwn i ofyn, “Pwy fyddaf yn priodi a beth fydd fy ngyrfa?” Yn ein tridegau, dŷn ni'n dechrau gofyn, “Sut alla i gael sicrwydd yn fy ngyrfa, a sut bydd fy mhlant yn troi allan?”

Erbyn y pedwardegau, dŷn ni’n dechrau gofyn, “Ai dyma’r swydd roeddwn i wir eisiau, a pham mae bywyd mor galed?” Yn ein pumdegau, dŷn ni’n dechrau edrych yn ôl ac ymlaen: “Sut mae wedi troi allan hyd yn hyn, a beth fyddaf yn ei wneud sy'n arwyddocaol yn y pum mlynedd ar hugain nesaf?”

Erbyn ein chwedegau, dŷn ni’n gofyn cwestiynau symlach fel, “A fydd fy iechyd yn parhau, a phryd y byddaf yn gweld fy wyrion ac wyresau?” Erbyn ein saithdegau, dŷn ni wir yn dechrau edrych yn ôl a gofyn, “A oedd y cyfan yn werth chweil, neu a fydd unrhyw un yn cofio?”

Yn bedwar ugain oed, mae'n bur debyg bod ein heiddo yn disgleirio'n llai llachar. Ar y llaw arall, y pethau sy'n rhoi llawenydd mawr i ni yw'r pethau anghyfarwydd:

  • Galwad ffôn gan ffrind
  • Cyffyrddiad llaw dy briod
  • Taith gerdded dawel yn edrych ar greadigaeth Duw
  • Presenoldeb dy blant
  • Chwerthin dy wyrion

Y peth doniol am gwestiynau bywyd yw mai’r rhai dŷn ni’n eu gofyn ar y diwedd yw’r rhai y dylen ni ddechrau. Mae'n anodd creu bywyd ystyrlon heb ystyried ein diwedd: Am beth dŷ ni'n gobeithio, am beth dŷn ni'n breuddwydio am ei fod yn berthnasol i'n bywydau, ein teulu, ein plant?

Dwi’n gobeithio y gallwn ddechrau mynd i’r afael â rhai o’r cwestiynau y byddwn yn eu gofyn—am ein marwoldeb, am ein hymdeimlad o ystyr a llwyddiant—ar hyn o bryd. Ac y byddwn yn darganfod nad ydym yn sôn am derfyniadau ond am gymynroddion parhaus.

Cais: Sut beth yw llwyddiant i ti? A fydd llwyddiant yn edrych yn wahanol pan fyddi di ar ddiwedd dy oes?

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Giving It All Away…And Getting It All Back Again

Wedi’i gymryd o’r llyfr, Giving It All Away…a Getting It All Back Again, mae David Green, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Hobby Lobby, yn rhannu bod bywyd hael yn talu’r gwobrau gorau yn bersonol, yn cynnig etifeddiaeth bwerus i’th deulu, ac yn newid y rhai rwyt ti’n gyffwrdd.

More

Hoffem ddiolch i David Green a Zondervan am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.zondervan.com