Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mentrus: Golwg ar Ffydd Mentrus Pobl AmherffaithSampl

Bolder: A Look at the Audacious Faith of Imperfect People

DYDD 4 O 7

Diwrnod 4: Jonathan

Jonathan oedd mab hynaf Saul, brenin cyntaf Israel. Fel rheol, pan fu farw brenin, byddai ei fab cyntaf -anedig yn cymryd yr awenau fel brenin. Yn anffodus i Jonathan, gwrthodwyd Saul gan Dduw am ei anufudd -dod (gweler 1 Samuel 15), felly dewisodd Duw Dafydd i'w ddisodli fel brenin. Roedd Dafydd yn amyneddgar ac yn aros i Dduw yn ei amser i’w osod ar yr orsedd yn lle gorfodi ei hun i’r sefyllfa honno cyn i Saul’s deyrnasiad ddod i ben.

Dychmygwch fod yn Jonathan yn y sefyllfa hon. Rwyt ti’n dywydog a Samuel, dy dad yw'r Brenin. Rwyt ti'n byw mewn palas, mae dy fywyd yn dda. Yna mae dy dad yn gwneud rhai dewisiadau gwael ac yn creu llanast o dy ddyfodol . Sut fyddet ti'n teimlo am yr un a ddewiswyd i fynd â'r orsedd ar ôl dy dad, yn lle ti?

Fodd bynnag, gwelwn ar y dechrau fod Jonathan a Dafydd yn ffrindiau gorau. Mae gan Saul, sydd mewn gwirionedd yn dod yn dad-yng-nghyfraith Dafydd, berthynas gymhleth ac i fyny ac i lawr mewn gwirionedd â Dafydd. Weithiau mae'n ymddangos ei fod yn hoffi Dafydd, ond yna ar fwy nag un achlysur, mae'n ceisio ei ladd e.

Ond nid yw Jonathan byth yn petruso. Mae'n aros yn wir fel ffrind a chefnogwr. Yn 1 Samuel 20, wnaethon ni ddarllen am sut mae'n rhybuddio Dafydd i fynd ar ffo oddi wrth ei dad, Saul, gan ei fod allan i ladd Dafydd (eto). Dychmyga pa mor galed y mae'n rhaid bod hynny wedi bod i Jonathan. Roedd yn gwybod bod ei hawl i'r orsedd yn cael ei rhoi i Ddafydd gan Dduw. Bu'n rhaid iddo chwarae dyn canol rhwng ei dad, y brenin presennol, a'i ffrind, brenin y dyfodol. Roedd yn rhaid iddo ddewis ochr a dal i anrhydeddu’r person arall. A dewisodd Jonathan ochr: roedd yn ochri gyda'r un yr oedd Duw wedi'i ddewis. Penderfynodd gytuno â’r hyn roedd Duw yn ei wneud. Doedd ei fywyd ddim yn haws, ond daeth ei fywyd i ben gyda'i gymeriad yn gyfan.

Roedd menter Jonathan yn edrych ymlaen. Roedd yn gwybod na fyddai’n frenin a bod llinell frenhinol ei dad Saul, yn dod i ben. Wnaeth ei dad ddim ei osod yn ei le yn dda, ond edrychodd Jonathan i'r dyfodol a sefydlu ei fab ei hun. Dewisodd dderbyn rôl gefndir yn narlun mawr Duw, gan wrthod yr eiddigedd y gwelodd ei dad yn gweithredu arno, ac o ganlyniad, fe wnaeth ei fab ei hun fedi’r buddiannau.

Cwestiynau Myfyrio/Trafod:

1. Wyt ti'n adnabod unrhyw un y mae ei fentrusrwydd yn gwneud mwy o les iddyn nhw eu hunain nag i eraill? Sut wyt ti'n teimlo am gymeriad yr unigolyn hwnnw?

2. Beth yw un ffordd y gallet ti fod yn fentrus ar ran rhywun arall?

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Bolder: A Look at the Audacious Faith of Imperfect People

Dydy bod yn fentrus Ddim angen bod yn fawreddog fel bod pawb yn ei weld; y weithred yn syml yw dod â beth bynnag sydd gen ti at Iesu a thrtystio ynddo â'r canlyniad. Tyrd: teithia ar antur o saith diwrnod yn edrych ar ffydd beiddgar pobl amherffaith.

More

Hoffem ddiolch i Berea am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://berea.org