Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 20

20
Jonathan yn Helpu Dafydd
1Ffodd Dafydd o Naioth ger Rama, a daeth at Jonathan a gofyn, “Beth wnes i? Beth yw fy mai a'm pechod gerbron dy dad, fel ei fod yn ceisio f'einioes?” 2Dywedodd Jonathan, “Pell y bo! Ni fyddi farw. Edrych yma, nid yw fy nhad yn gwneud dim, bach na mawr, heb ddweud wrthyf fi; pam felly y byddai fy nhad yn celu'r peth hwn oddi wrthyf? Nid oes dim yn y peth.” 3Ond tyngodd Dafydd wrtho eto a dweud, “Y mae dy dad yn gwybod yn iawn imi gael ffafr yn d'olwg, a dywedodd, ‘Nid yw Jonathan i wybod hyn, rhag iddo boeni.’ Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau hefyd, dim ond cam sydd rhyngof fi ac angau.” 4Yna gofynnodd Jonathan i Ddafydd, “Beth a ddymuni imi ei wneud iti?” 5Ac meddai Dafydd wrth Jonathan, “Y mae'n newydd-loer yfory, a dylwn fod yno'n bwyta gyda'r brenin; gad imi fynd ac ymguddio yn y maes tan yr hwyr drennydd. 6Os bydd dy dad yn holi'n arw amdanaf, dywed, ‘Fe grefodd Dafydd am ganiatâd gennyf i fynd draw i'w dref ei hun, Bethlehem, am fod yno aberth blynyddol i'r holl dylwyth.’ 7Os dywed, ‘Popeth yn dda’, yna y mae'n ddiogel i'th was; ond os cyll ei dymer, byddi'n gwybod ei fod yn bwriadu drwg. 8Bydd yn deyrngar i'th was, oherwydd gwnaethost gyfamod â mi gerbron yr ARGLWYDD. Ac os oes bai ynof, lladd fi dy hun; pam mynd â mi at dy dad?” 9Atebodd Jonathan, “Pell y bo hynny! Pe bawn i'n gwybod o gwbl fod fy nhad yn bwriadu drwg iti, oni fyddwn yn dweud wrthyt?” 10Gofynnodd Dafydd i Jonathan, “Pwy sydd i ddweud wrthyf os bydd dy dad yn rhoi ateb chwyrn iti?” 11Dywedodd Jonathan wrth Ddafydd, “Tyrd, gad inni fynd i'r maes.” 12Aeth y ddau allan i'r maes, ac meddai Jonathan wrth Ddafydd, “Cyn wired â bod ARGLWYDD Dduw Israel yn fyw, mi holaf fy nhad tua'r adeg yma yfory am y trydydd tro; yna, os newydd da fydd i Ddafydd, anfonaf air i ddweud wrthyt. 13Ond os yw fy nhad am wneud niwed iti, yna fel hyn y gwnelo'r ARGLWYDD i mi, Jonathan, a rhagor, os na fyddaf yn dweud wrthyt, er mwyn iti gael mynd ymaith yn ddiogel. Bydded yr ARGLWYDD gyda thi, fel y bu gyda'm tad. 14Os byddaf fyw, gwna drugaredd â mi yn enw'r ARGLWYDD. 15Ond os byddaf farw, paid byth ag atal dy drugaredd oddi wrth fy nheulu. A phan fydd yr ARGLWYDD wedi torri ymaith holl elynion Dafydd oddi ar wyneb y tir, 16na fydded Jonathan wedi ei dorri oddi wrth deulu#20:16 Cymh. Groeg. Hebraeg, gyda theulu. Dafydd; a bydded i'r ARGLWYDD ddial ar elynion Dafydd.” 17Tyngodd Jonathan eto i Ddafydd#20:17 Felly Groeg. Hebraeg, Gwnaeth Jonathan i Ddafydd dyngu eto. am ei fod yn ei garu, oherwydd yr oedd yn ei garu fel ei enaid ei hun. 18A dywedodd Jonathan wrtho, “Y mae'n newydd-loer yfory, a gwelir dy eisiau pan fydd dy le yn wag; a thrennydd byddant yn chwilio'n ddyfal amdanat#20:18 Cymh. Groeg. Hebraeg, a threbli, ei i lawr yn bell.. 19Dos dithau i'r man yr ymguddiaist ynddo adeg y digwyddiad o'r blaen, ac aros yn ymyl y garreg fan draw#20:19 Felly Groeg. Hebraeg, y garreg Esel.. 20Saethaf finnau dair saeth i'w hymyl, fel pe bawn yn saethu at nod. 21Wedyn anfonaf y llanc a dweud, ‘Dos i nôl y saethau.’ Os byddaf yn dweud wrth y llanc, ‘Edrych, y mae'r saethau y tu yma iti; cymer hwy’, yna tyrd, oherwydd y mae'n ddiogel iti, heb unrhyw berygl, cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw. 22Ond os dywedaf fel hyn wrth y llencyn: ‘Edrych, y mae'r saethau y tu draw iti’, yna dos, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn dy anfon i ffwrdd. 23Bydded yr ARGLWYDD yn dyst am byth rhyngof fi a thi yn y cytundeb hwn a wnaethom ein dau.”
24Ymguddiodd Dafydd yn y maes; a phan ddaeth y newydd-loer, 25eisteddodd y brenin i lawr i fwyta'r pryd, a chymryd ei le arferol ar y sedd wrth y pared, gyda Jonathan gyferbyn#20:25 Felly Groeg. Hebraeg, wedi codi., ac Abner yn eistedd wrth ochr Saul; ond roedd lle Dafydd yn wag. 26Ni ddywedodd Saul ddim y diwrnod hwnnw, gan feddwl mai rhyw hap oedd, ac nad oedd yn lân#20:26 Hebraeg yn ychwanegu oherwydd nid oedd yn lân.. 27Ond pan oedd lle Dafydd yn wag drannoeth, ar ail ddiwrnod y newydd-loer, gofynnodd Saul i'w fab Jonathan, “Pam nad yw mab Jesse wedi dod i fwyta, ddoe na heddiw?” 28Atebodd Jonathan, “O, fe grefodd Dafydd arnaf am gael mynd i Fethlehem, 29a dweud, ‘Gad imi fynd, oherwydd y mae gan y teulu aberth yn y dref, ac y mae fy mrawd wedi peri i mi fod yno; felly, os gweli di'n dda, gad imi fynd draw i weld fy mrodyr.’ Dyna pam nad yw wedi dod at fwrdd y brenin.” 30Gwylltiodd Saul wrth Jonathan a dywedodd wrtho, “Ti fab putain#20:30 Tebygol. Hebraeg yn aneglur. anufudd! Oni wyddwn dy fod yn ochri gyda mab Jesse, er cywilydd i ti dy hun ac i warth dy fam? 31Oherwydd tra bydd mab Jesse fyw ar y ddaear, ni fyddi di na'r frenhiniaeth yn ddiogel. Anfon ar unwaith a thyrd ag ef ataf, oherwydd y mae'n haeddu marw.” 32Atebodd Jonathan a dweud wrth ei dad, “Pam ei roi i farwolaeth? Beth y mae wedi ei wneud?” 33Yna hyrddiodd Saul waywffon ato i'w daro, a sylweddolodd Jonathan fod ei dad yn benderfynol o ladd Dafydd. 34Felly cododd Jonathan oddi wrth y bwrdd yn wyllt ei dymer, a heb fwyta tamaid ar ail ddiwrnod y newydd-loer, am ei fod yn gofidio dros Ddafydd, a bod ei dad wedi rhoi sen arno yntau.
35Bore trannoeth aeth Jonathan allan i'r maes i gadw ei oed â Dafydd, a llanc ifanc gydag ef. 36Dywedodd wrth y llanc, “Rhed di i nôl y saethau y byddaf fi'n eu saethu.” Tra oedd y llanc yn rhedeg, yr oedd ef yn saethu'r saethau y tu draw iddo. 37Wedi i'r llanc gyrraedd y man y disgynnodd y saethau, gwaeddodd Jonathan ar ôl y llanc, “Onid yw'r saethau y tu draw iti?” Yna gwaeddodd ar ôl y llanc, “Dos, brysia, paid â sefyllian.” 38Casglodd llanc Jonathan y saethau a'u dwyn yn ôl at ei feistr. 39Nid oedd y llanc yn sylweddoli dim, ond yr oedd Jonathan a Dafydd yn deall y neges. 40Rhoddodd Jonathan ei offer i'r llanc oedd gydag ef, a dweud wrtho, “Dos, cymer hwy'n ôl adref.” 41Wedi i'r llanc fynd, cododd Dafydd o'r tu ôl i'r garreg#20:41 Gw. adn. 19. Hebraeg, Negef., a syrthio ar ei wyneb i'r llawr ac ymgrymu deirgwaith. Yna cusanodd y ddau ei gilydd ac wylo, yn enwedig Dafydd. 42Ac meddai Jonathan wrth Ddafydd, “Dos mewn heddwch; yr ydym ein dau wedi tyngu yn enw'r ARGLWYDD y bydd yr ARGLWYDD yn dyst rhyngom ni a rhwng ein disgynyddion am byth.” Yna aeth Dafydd i ffwrdd, a dychwelodd Jonathan adref.

Dewis Presennol:

1 Samuel 20: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda