Mentrus: Golwg ar Ffydd Mentrus Pobl AmherffaithSampl
Diwrnod 2: Esther
Dŷn ni'n neidio i ganol y stori ym mhennod 4, felly gad inni ddal i fyny, (Mae croeso i ti ddarllen Esther i gyd os wyt ti eisiau!): Roedd Esther, Iddewes, wedi'i gwneud yn frenhines am fod y Brenin Persiaidd Ahasferus yn anfodlon ar ei wraig flaenorol. Roedd Haman, prif weinidog y Brenin Ahasferus, yn casáu Mordecai, ewythr Esther, oherwydd bod Mordecai wedi gwrthod ymgrymu iddo (gan mai dim ond i Dduw y byddai Iddewon yn ymgrymu).
Wnaeth Haman arddangos y casineb hwnnw at yr holl Iddewon drwy ddweud rywfaint o gelwydd noeth i argyhoeddi’r Brenin Ahasferus y dylen nhw i gyd gael eu lladd. Cytunodd y brenin, oherwydd rhywfaint o gelu’r gwir a gwybodaeth ddrwg.
Yn Esther 4, mae Mordecai yn herio Esther i ddefnyddio ei safle fel brenhines i achub yr Iddewon. Mae ei phetruster yn gwneud synnwyr gan mai dim ond oherwydd fod y brenin wedi cael gwaredu ar ei wraig flaenorol, a doedd e heb alw heibio i'w gweld ers mis cyfan. A fyddai hyd yn oed yn gadael iddi siarad ag e? Gallai golli ei bywyd yn llythrennol dim ond trwy ddod i weld y brenin heb gael ei Galway ato.
Wnaeth dewrder Esther yn wyneb marwolaeth bosibl ddim dod o unlle. Mae'n ymddangos bod dau beth wedi ei darbwyllo i weithredu er ei bod yn ofni am ei bywyd: sgwrs dda a chefnogaeth gan ei thîm. Os wyt ti’n chwarae chwaraeon neu wedi gwylio unrhyw ffilmiau chwaraeon, gelli di ddychmygu'r olygfa: Mae'r hyfforddwr neu'r capten yn rhoi araith ysbrydoledig yn atgoffa'r tîm o'r rheswm pam mae angen iddyn nhw fynd yn ôl allan yna hyd yn oed pan maen nhw ar i lawr. Mae gan y tîm eiliad fel grŵp sy'n dod â nhw at ei gilydd ac yn eu sicrhau, sut bynnag mae pethau'n troi allan, maen nhw ynddo gyda'i gilydd ac yn gallu trysio yn ei gilydd allan yna. Mae gan Esther brofiad tebyg. Unwaith y bydd neges Mordecai yn ei darbwyllo bod angen iddi fynd at y brenin, mae angen cymorth arni. Mae'n gofyn i'r rhai sydd agosaf ati i ymuno â hi mewn ympryd i baratoi ar gyfer yr eiliad y mae'n mynd i weld y brenin, ac mae'n gofyn i Mordecai ofyn i gymaint â sy’n bosib i ymuno â nhw hefyd - ac maen nhw'n gwneud hynny.
Mae geiriau Mordecai yn 4:14 nid yn unig wedi ysbrydoli Esther i weithredu ond hefyd wedi ysbrydoli llawer o rai eraill i weithredu er gwaethaf eu hofnau am genedlaethau wedyn. Daw’r gair “annog” o’r syniad i roi dewrder. Dŷn ni’n gweld mentrus rwydd Esther yn y modd y mae hi'n fodlon mynd at y brenin ac yn y modd y mae hi'n paratoi (mae hi'n dod i fyny â chynllun), a gwelwn mentrusrwydd Mordecai pan fydd yn rhoi dewrder i'w nith i ddefnyddio'r hyn sydd ganddi er lles y pobl.
Cwestiynau Myfyrdod/Trafod:
1. A fu amser pan oedd ofn arnat ti i wneud rhywbeth ac roeddet ti’n gwybod bod angen i ti ei wneud ac roedd anogaeth rhywun wedi gwneud byd o wahaniaeth?
2. Oes rhywun yn dy fywyd ar hyn o bryd y gallet ti fenthyg dy ddewrder iddyn nhw?
3. Wyt ti mewn sefyllfa ar hyn o bryd i helpu rhywun arall ond yn cael dy ddal yn ôl gan ofn? Beth yw un cam y gallet ti ei gymryd i geisio'r dewrder sydd ei angen arnat ti?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Dydy bod yn fentrus Ddim angen bod yn fawreddog fel bod pawb yn ei weld; y weithred yn syml yw dod â beth bynnag sydd gen ti at Iesu a thrtystio ynddo â'r canlyniad. Tyrd: teithia ar antur o saith diwrnod yn edrych ar ffydd beiddgar pobl amherffaith.
More