Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mentrus: Golwg ar Ffydd Mentrus Pobl AmherffaithSampl

Bolder: A Look at the Audacious Faith of Imperfect People

DYDD 6 O 7

Diwrnod 6: Iachau Gwraig

Mae Matthew, Marc, a Luc i gyd yn rhoi hanes y wraig arbennig hon sy'n chwilio am iachâd gan Iesu. Mae ganddi ormod o ofn gofyn i Iesu am iachâd, felly mae hi'n cyffwrdd ag ymyl ei wisg, gan drystio bod ganddo ddigon o allu i wella fel hyn. Camwch i mewn i'w sandalau hi am funud bach. Mae hi wedi bod yn sâl ers deuddeg mlynedd. Meddylia am rywun rwyt ti'n ei adnabod sy'n ddeuddeg, neu efallai dy fod di’n ddeuddeg. Dyna eu bywydcyfan! Waeth pa mor hen wyt ti, mae deuddeg mlynedd yn amser hir i fod yn sâl. Roedd salwch y wraig yn achosi iddi waedu. Yn feddygol, roedd hyn yn golygu ei bod hi'n debygol y byddai wedi blino drwy'r amser, yn ôl pob tebyg yn methu â gwneud tasgau arferol o ddydd i ddydd yn aml. Yn grefyddol, fel Iddew, roedd hyn yn golygu ei bod yn “aflan” ac na allai gymryd rhan mewn rhai o’r gweithgareddau crefyddol - am ddeuddeng mlynedd. Dychmyga’r blinder a'r unigrwydd roedd hi'n ei deimlo. Ar ben hynny, doedd dim unrhyw feddyg wedi gallu ei helpu, ac doedd ganddi ddim arian ar ôl iddi roi tro ar lawer o bethau arall. Beth arall ellid ei wneud beth bynnag?

Yna aeth Iesu drwy'r dref, wedi i ddyn cyfoethog, pwysig ofyn iddo ddod i'w dŷ i iacháu ei ferch. Roedd y wraig wedi clywed yn glir am Iesu a beth allai ei wneud gan ei bod yn gobeithio y byddai cyffwrdd ei wisg yn ei gwella. P'un a oedd hi'n ceisio peidio â thrafferthu Iesu neu'n teimlo embaras i ofyn iddo am help (neu gymysgedd o'r ddau), aeth amdani - ac fe weithiodd! Wedi rhyfeddu, roedd yn ymddangos bod y wraig eisiau aros yn ddisylw, ond rhoddodd Iesu y gorau i'r hyn yr oedd yn ei wneud er mwyn siarad â hi'n uniongyrchol.

Dychmyga’r foment honno nawr. Rwyt ti wedi bod yn trio peidio tynnu sylw atat ti dy hun, rwyt ti'n cael yr hyn y ddois di amdano, ac yna mae Iesu'n troi at y dyrfa ac yn gofyn, "Pwy gyffyrddodd fi?" Os wyt ti'n rhedeg i ffwrdd, byddai’n amlwg mai ti wnaeth. Os wyt ti edrych o gwmpas fel pe na bai ti wnaeth, a yw'n mynd i wybod beth bynnag, ac yna'n ei wneud yn waeth pan fyddi di'n cael dy alw allan am beidio â dweud unrhyw beth? Mae'r fenyw'n penderfynu cyfaddef ac, gan edrych at y llawr, mae'n cyfaddef mai hi wnaeth o flaen pawb. I'r rhai ohonom sydd wedi cael cyfle i ddarllen y Beibl a gweld sut mae Iesu'n trin pobl, dydyn ni ddim yn synnu at ymateb caredig Iesu, ond mae'n debyg bod y fenyw hon a'r rhai o'i chwmpas. Mae Iesu’n cymryd ennyd, wrth iddo gael ei ruthro i helpu rhywun arall ac mae’n siarad â’r wraig, gan ei chanmol am ei ffydd. Dywed Iesu mai ei ffydd hi a’i gwnaeth yn iach. Ei ffydd? Ceisiodd fod mor ddienw, mor gudd, â phosibl. Doedd hi ddim eisiau tynnu sylw ac efallai ei bod hi’n teimlo’n anobeithiol; mae'n debyg nad oedd hi'n teimlo'n ddigon teilwng i ofyn am yr help. Ond yn y pen draw, roedd hi'n dal i ddod at Iesu gyda'r dewrder y gallai ei gasglu, ac roedd hynny'n ddigon. Dydy Iesu ddim yn gofyn am ffydd fawr o’i gymharu â ffydd unrhyw un arall; mae'n gofyn i ni ddod ato gyda pha bynnag ffydd sydd gennym. Mae hynny'n unig yn cymryd menter, ond bydd yn sicr, yn parhau â Thi o hynny ymlaen.

Cwestiynau Myfyrdod/Trafod:

1. Oes unrhyw ran o’th fywyd lle nad wyt ti wedi mentro am nad wyt ti’n teimlo dy fod yn ddigon da?

2. Wyt ti erioed wedi gweld Iesu yn cymryd rhywbeth nad oedd yn dda yn dy farn di ac yn gwneud rhywbeth rhyfeddol ag e? Eglura neu rhanna.

3. Beth yw un peth rwyt ti'n meddwl y dylet ti ddod ag ef at Iesu er bod ofn arnat ti?

Ysgrythur

Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Bolder: A Look at the Audacious Faith of Imperfect People

Dydy bod yn fentrus Ddim angen bod yn fawreddog fel bod pawb yn ei weld; y weithred yn syml yw dod â beth bynnag sydd gen ti at Iesu a thrtystio ynddo â'r canlyniad. Tyrd: teithia ar antur o saith diwrnod yn edrych ar ffydd beiddgar pobl amherffaith.

More

Hoffem ddiolch i Berea am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://berea.org